Mae Goruchaf Lys Sbaen wedi cadw at eu dyfarniad gwreiddiol yn erbyn Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia.
Roedd erlynwyr eisiau iddo wynebu cyhuddiadau mwy difrifol pe bai’n dychwelyd i’r wlad ar ôl bod yn alltud ers refferendwm annibyniaeth “anghyfansoddiadol” yn 2017.
Byddai’n wynebu cyhuddiadau o gamddefnyddio arian ac anafudd-dod pe bai’n dychwelyd, ond roedd erlynwyr eisiau iddo wynebu cyhuddiad o anhrefn yn erbyn y drefn gyhoeddus drwy drais yn hytrach nag annog gwrthryfel.
Mae’r dyfarniad yn dangos pa gyhuddiadau y byddai’n eu hwynebu pe bai’n mynd adref neu pe bai’r Goruchaf Lys yn diweddaru’r warant Ewropeaidd i’w arestio.
Daw’r dyfarniad yn dilyn diwygio’r cod cosbol yn Sbaen.
Gall camddefnyddio arian arwain at gyfnod o garchar, a byddai defnyddio trais fel rhan o anhrefn wedi arwain at gyfnod mwy sylweddol dan glo.
Ond gwaharddiad rhag bod mewn swydd gyhoeddus yw’r gosb fwyaf am anufudd-dod.