Mae Boris Johnson yn “gelwyddgi na ddylai gael gwenwyno ein gwleidyddiaeth byth eto”, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Mae Liz Saville Roberts wedi ymateb i adroddiad gan Bwyllgor Breintiau San Steffan, sydd wedi argymell gwaharddiad o 90 diwrnod pe bai cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dal yn aelod seneddol.
Mae hynny ymhell y tu hwnt i’r cyfnod fyddai ei angen er mwyn trefnu deiseb ac is-etholiad posib.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi argymell y dylai golli ei fraint fel cyn-aelod seneddol i ddychwelyd i San Steffan fel ymwelydd achlysurol – gan gynnwys yr hawl i ddefnyddio cyfleusterau lluniaeth.
Casgliadau’r adroddiad
Yn ôl yr adroddiad, fe wnaeth Boris Johnson:
- gamarwain Tŷ’r Cyffredin sawl gwaith
- sarhau’r pwyllgor ymhellach drwy eu beirniadu yn dilyn eu casgliadau cychwynnol ynghylch ei ymddygiad
- beirniadu’r pwyllgor gan danseilio proses ddemocrataidd San Steffan
- arwain ymgyrch i geisio sarhau a bygwth y pwyllgor
Camodd Boris Johnson o’r neilltu ddiwedd yr wythnos ddiwethaf yn dilyn casgliadau cychwynnol yr adroddiad.
Yn ei ddatganiad yn cadarnhau ei ymddiswyddiad, fe wnaeth e ladd ar y pwyllgor a’u cyhuddo o “ragfarn”, “nonsens” ac o’i “yrru allan o’r senedd”.
Mae Boris Johnson bellach yn galw ar Syr Bernard Jenkins, aelod Ceidwadol o’r pwyllgor, i ymddiswyddo gan ei gyhuddo o “ragrith enfawr” yn dilyn adroddiadau ei fod yntau wedi bod mewn parti yn ystod cyfyngiadau Covid-19 yn 2020.
Daeth y pwyllgor o hyd i dystiolaeth ynghylch partïon y bu Boris Johnson yn westai ynddyn nhw neu’n ymwybodol ohonyn nhw.
Roedd e’n cyfaddef iddo gamarwain y senedd, ond roedd yn mynnu nad oedd hynny’n fwriadol.
‘Penderfynodd pobol Cymru amser maith yn ôl’
“Mae’r Pwyllgor Breintiau’n dweud y byddai Boris Johnson wedi cael ei ddiarddel am *90 diwrnod* pe bai’n dal yn aelod seneddol,” meddai Liz Saville Roberts.
“Penderfynodd pobol Cymru amser maith yn ôl – mae Johnson yn gelwyddgi na ddylai gael gwenwyno ein gwleidyddiaeth byth eto.
“Mae’r Torïaid bellach mewn rhyfel cartref llawn tros bersonoliaethau ac arglwyddiaethau.
“Yn y cyfamser, all pobol gyffredin ddim fforddio pethau angenrheidiol sylfaenol ac yn gweld eu morgeisi a’u rhent yn mynd drwy’r to dan oruchwyliaeth San Steffan.
“Mae pobol wedi cael llond bol.
“Yr unig ffordd o ddod â’r saga grotésg yma i ben yw drwy etholiad cyffredinol.”
‘Hollol ddamniol’
Yn ôl Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan, mae tystiolaeth a chasgliadau’r pwyllgor yn “hollol ddamniol”.
“Mae Boris Johnson yn droseddwr ac yn gelwyddgi parhaus.
“Nid yn unig y gwnaeth e ddirmygu’r senedd, ond mae e wedi dangos dirmyg llwyr tuag at bobol ein gwlad.
“Unwaith eto, mae Rishi Sunak wedi dangos ei wendid drwy gymeradwyo rhestr anrhydeddau ymddiswyddiad Boris Johnson yr wythnos ddiwethaf, yn hytrach nag aros am yr adroddiad hwn, gwneud y peth iawn a dweud ‘Na’ wrth ei gyn-bennaeth.
“Rhaid i’r syrcas Dorïaid yma ddod i ben nawr.
“Mae pobol ar draws y wlad yn galw allan am arweiniad ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw.
“Mae’n bryd dechrau o’r dechrau gyda Llywodraeth Lafur a Phrif Weinidog gonest, Keir Starmer.”