Bydd mwy na £58m yn cael ei wario er mwyn annog pobol i gerdded a beicio yn hytrach na defnyddio ceir, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ar Ddiwrnod Aer Glân (dydd Iau, Mehefin 15), mae Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru wedi dweud sut y bydd y buddsoddiad “enfawr” yn ariannu llwybrau teithio llesol newydd a gwell dros y wlad.

Bydd yn mynd tuag at adeiladu 37 o lwybrau teithio llesol newydd, a datblygu 22 arall.

Bydd hefyd yn cael ei wario ar 30 o gynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau awdurdodau lleol, gyda £3m yn mynd tuag at y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol.

Ynghyd â hynny, bydd pob awdurdod lleol yn derbyn o leiaf £500,000 i’w ddefnyddio ar gyfer prosiectau fel mannau croesi newydd a safleoedd parcio newydd ar gyfer beics.

‘Ymateb ymarferol’

Bu Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn siarad yn ystod ymweliad â Sir y Fflint lle mae llwybr teithio llesol newydd wedi cael ei ddatblygu o Sandy Lane i Saltney Ferry ger y ffin â Lloegr.

“Mae cerdded a beicio yn cynnig ymateb ymarferol a hanfodol i helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau amgylcheddol ac iechyd,” meddai.

“Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn rhoi pwysau arnom i ddarparu rhwydweithiau teithio llesol o ansawdd uchel sy’n annog mwy a mwy o bobol i gerdded a beicio yn rheolaidd ar gyfer teithiau yn lle defnyddio car.

“Mae’r cyllid heddiw yn fuddsoddiad sylweddol arall a fydd yn ein helpu i gyflawni cynlluniau uchelgeisiol ledled Cymru sydd wedi’u cynllunio i gysylltu pobol â’u hoff leoedd a’r lleoedd y mae angen iddyn nhw fynd iddyn nhw.”

‘Gwella’r amodau’

Dywed y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer gwasanaethau stryd a’r strategaeth drafnidiaeth ranbarthol, eu bod nhw’n falch iawn o glywed am y cadarnhad cyllid.

“Nod y cynigion hyn yw gwella’r amodau ar gyfer cerdded a beicio drwy leihau cyflymder traffig, rhoi mwy o flaenoriaeth i gerddwyr ac ehangu troedffyrdd,” meddai.

“Trwy ychwanegu seilwaith gwyrdd bydd yr ardaloedd hyn yn creu amgylchedd deniadol a diogel a fydd yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn fwy aml.”

‘Camau annigonol’

Daw hyn wrth i Bwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd baratoi i gyfarfod Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, heddiw er mwyn trafod adroddiad diweddaraf y Comisiwn Newid Hinsawdd.

Yn ôl y Comisiwn, mae Cymru’n gwneud “camau annigonol” tuag at gyrraedd eu targed sero net ar hyn o bryd ac maen nhw wedi rhybuddio nad yw’r llywodraeth yn gweithredu’n ddigon sydyn i ddatblygu’r isadeiledd sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal ceir trydan.

Mae gan Gymru darged statudol i gyrraedd sero net erbyn 2050, ac er mwyn cyrraedd hwnnw mae’n rhaid lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fel nad yw’r wlad yn cyfrannu at gynhesu byd eang mwyach.