Mae dynes o Dalysarn yn cwestiynu pam fod yn rhaid iddi dalu trethi a hithau heb allu gweld deintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers dechrau cyfnod clo Covid-19.
Yn ôl Madeleine Beattie, dydy hi na’i phlant ddim wedi gallu cael apwyntiad ers pedair blynedd, ac mae hi’n teimlo’n danbaid y dylai trethdalwyr gael gwasanaeth deintyddol yn rhad ac am ddim.
Oherwydd bod dannedd plant yn dal i ddatblygu yn ystod eu plentyndod a’u harddegau, mae hi’n teimlo bod gwasanaeth deintyddol yn hynod bwysig.
Ei bwriad nawr yw cynilo i fynd yn breifat oherwydd nad yw eisiau i’w phlant ddioddef, er ei bod yn teimlo bod gorfod talu am ofal deintyddol yn anghywir.
“Rwy’n meddwl y dylai swm y dreth rydym yn ei dalu olygu ein bod yn cael gofal deintyddol am ddim,” meddai Madeleine Beattie wrth golwg360.
“Rwy’n meddwl bod gennym ni hawl i fudd-daliadau gofal iechyd fel trethdalwyr.
“Mae gennym ni driniaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol am ddim, ac eto mae’n rhaid i chi dalu am eich dannedd.
“Rwy’n meddwl y dylai fod gan y Llywodraeth ddeintyddion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer pobol pan fydd eu hangen arnynt.
“Rydyn ni’n talu’r holl drethi yma, felly fe ddylen ni gael gwasanaeth.”
Effaith Covid-19
A hithau ar restr aros ers blynyddoedd, dydy hi na’i phlant heb allu cael apwyntiad o gwbl, a hynny’n rhannol oherwydd yr ôl-groniad oherwydd y cyfnod clo.
Oherwydd yr argyfwng costau byw, mae hi’n teimlo na fydd llawer o bobol yn gallu fforddio talu am ddeintydd preifat.
“Mae wedi bod yn amhosib cael deintydd yn Arfon ar gyfer check-up rheolaidd, oherwydd does dim unrhyw apwyntiad rheolaidd gyda deintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol bellach,” meddai.
“Ers Covid, mae’r ôl-groniad wedi bod mor ddrwg fel eich bod chi’n bwriadu mynd yn breifat i gael archwiliad rheolaidd er mwyn cael deintydd.
“Maen nhw’n ceisio dal i fyny efo’r holl apwyntiadau brys oherwydd Covid.
“Roedd apwyntiad wedi’i drefnu i ni, fi a’r plant, ac fe gafodd hwnnw ei ganslo ddwy neu dair gwaith.
“Pan ffoniais, fe ddywedon nhw, ‘Mae’n wir ddrwg gennym fod yna ôl-groniad. Rydych chi ar y rhestr aros ond mae eich enwau mor bell yn ôl fel nad ydych yn mynd i fod yn gweld unrhyw un am rai blynyddoedd’.”
“Yn y cyfamser, mae dannedd y plant yn dirywio.
“All pobol ddim bob amser fforddio cael deintydd preifat, yn enwedig gyda’r argyfwng costau byw.
“Sut gall pobol fforddio gofal iechyd preifat ar ben hynny?”
Dyfodol ein plant
Mae plentyndod yn amser tyngedfennol yn natblygiad dannedd, lle maen nhw angen gofal deintyddol da i ddiogelu eu dannedd ar gyfer y dyfodol
Ond beth am ddannedd plant Madeleine Beattie, felly?
“Mae dannedd fy mab a’m merch yn ystod Covid wedi bod [yn datblygu] mewn amser, lle mae’n bwysig cadw llygaid ar eich dannedd,” meddai.
“Efallai y bydd angen braces ar blentyn neu berson ifanc.
“Mae angen eu monitro’n agos.
“Efallai y bydd angen eu tynnu allan.
“Maen nhw yn dal i ddatblygu.
“Dydyn nhw ddim wedi gweld deintydd ers pedair blynedd.
“Nawr, er mwyn iddyn nhw weld deintydd, rydw i’n edrych i orfod talu ffioedd preifat a dydyn nhw ddim yn rhad.
“Yn fisol, mae’n adio i fyny.
“Yn y dyfodol, dwi’n meddwl bod plant yn mynd i gael dannedd drwg iawn achos dydyn nhw ddim yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd.
“Mae’n drueni.”