Mae Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru, yn dweud ei bod hi am geisio sicrhau “tai newydd a fforddiadwy” ar safle gwag y Llywodraeth yn ardal Penrallt ger Caernarfon.

Daw hyn ar ôl i Siân Gwenllian, Aelod o Grŵp Plaid Cymru Arfon ac Aelod Dynodedig y Llywodraeth, ofyn yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw (dydd Mercher, Mehefin 14) am ddiweddariad ynglŷn â sefyllfa’r adeiladau gwag yn y dref.

“Hen adeilad swyddfa Llywodraeth Cymru yng Ngogledd Penrallt yw’r unig adeilad gwag sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yng Nghaernarfon,” meddai Rebecca Evans.

“Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Gwynedd ar y mater hwn, ac mae swyddogion mewn trafodaethau gweithredol gyda’r cyngor i sicrhau bod yr adeilad yn cael ei roi yn ôl i ddefnydd buddiol cyn gynted â phosibl.”

‘Lle i 30 o bobl’

Yn ôl Siân Gwenllian, cyflwynodd 107 o bobol eu hunain yn ddigartref yn fis Mai.

“Mae swyddfeydd y Llywodraeth ym Mhenrallt yn wag ers dwy flynedd, ac mae’r cyngor a chymdeithas dai lleol yn awyddus i ddefnyddio’r adeilad ar gyfer cynnig llety dros dro i bobl sy’n cyflwyno eu hunain yn ddigartref,” meddai.

“Mae’r sir yn gwario £6m ar lety anaddas, gan nad oes yna ddigon o lefydd dros dro ar gael.

“Mi fyddai yna le i dros 30 o bobl ym Mhenrallt, safle sydd yng nghanol tre Caernarfon.”

Gofynnodd a fyddai’r Llywodraeth yn ymrwymo i brysuro’r cynllun yn ei flaen ac i “sicrhau’r defnydd effeithiol o adnoddau cyhoeddus”.

Atebodd Rebecca Evans gan ddweud eu bod nhw “yn ceisio sicrhau bod unrhyw waith ailddatblygu ar y safle yn darparu tai newydd a fforddiadwy i liniaru’r pwysau tai presennol yn yr ardal”.

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r effeithiau negyddol sylweddol y mae adeiladau gwag yn eu cael ar yr amgylchedd lleol, ac yn enwedig felly yng nghanol ein trefi,” meddai.

‘Gobeithio am gyfarfod cynhyrchiol’

Mae cyfarfod wedi ei drefnu rhwng uwch swyddogion Llywodraeth Cymru a Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, a’i swyddogion ddydd Llun (Mehefin 19).

“Rwy’n gobeithio bod hwnnw’n gyfle inni wneud rhywfaint o gynnydd a chytuno ar ffordd ymlaen,” meddai Rebecca Evans.

Dywed fod angen cynnig mwy manwl cyn gallu derbyn unrhyw argymhellion gan swyddogion.

“Credaf y bydd angen rhywfaint o gymorth grant sylweddol ar gyfer unrhyw gynigion,” meddai.

“Felly, mae’n rhaid i unrhyw geisiadau am gyllid o’r fath fynd drwy broses drylwyr iawn i bennu gwerth am arian.”

Mae hi’n cytuno â Siân Gwenllian ynglŷn â’r angen i ddefnyddio’r adeilad cyn gynted â phosib, ac mae’n dweud bod “defnydd preswyl yn ddefnydd da iawn ar gyfer y safle hwnnw, ac mae angen mawr amdano”.

“Felly, rwy’n gobeithio y bydd y cyfarfod, yn awr, ddydd Llun yr wythnos nesaf, yn gynhyrchiol,” meddai.