Mae mam i fachgen 17 oed yn dweud ei bod hi “bron yn amhosib” iddo gael diagnosis o awtistiaeth.

Yn ôl Diane Thomas, sydd yn wreiddiol o Gaernarfon ond rŵan yn byw gerllaw ym Methel, does dim help ar gael i’w mab Gwion gan nad ydi o wedi cael diagnosis o awtistiaeth.

Byddai diagnosis “yn agor llawer o ddrysau fel rhieni i gael gwybod beth sydd yn dŵad nesaf”, meddai.

Mae anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD) yn anabledd datblygiadol gaiff ei achosi gan wahaniaethau yn yr ymennydd.

Mae pobol ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn aml yn wynebu problemau gyda chyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol, ac ymddygiadau neu ddiddordebau cyfyngedig neu ailadroddus.

Efallai y bydd gan bobol ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth wahanol ffyrdd o ddysgu, symud, neu dalu sylw hefyd.

Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Mae gan Gwion Thomas amryw o symptomau all awgrymu fod ganddo’r cyflwr.

Yn ôl ei fam, byddai diagnosis yn rhoi cefnogaeth i’r teulu i gynllunio ar gyfer ei ddyfodol.

“Rydym wedi amau ers iddo fod yn yr ysgol gynradd, Blwyddyn 6, fod ganddo awtistiaeth,” meddai Diane Thomas wrth golwg360.

“Mae Gwion yn symbylu [symudiad neu synau corff sy’n ailadrodd neu’n anarferol].”

Gall symbylu gynnwys ystumiau dwylo a bysedd – er enghraifft, fflicio bysedd a fflapio â llaw, a symudiadau corff anarferol, siglo yn ôl ac ymlaen wrth eistedd neu sefyll wrth fynd yn stressed neu slapio pen.

“Dydy o ddim yn gallu bod mewn torf fawr o bobol, ac mae sŵn mawr yn stress-io fo allan.

“Mae unrhyw sŵn uchel yn gorfodi fo rhoi ei fysedd yn ei glustiau.

“Dydy o ddim yn deall jôcs nac ychwaith yn deall wynebau pobol nac emosiynau.

“Mae o yn casáu unrhyw beth efo tyllau fel sbwnj, felly galla i ddim cael dim byd fel yna.

“Mae rhaid iddo gael coler sydd ddim yn blaen neu fydd o ddim yn gwybod sut i’w roi ar.

“Mae o yn casáu torri ei wallt.

“Mae yna lot mawr o bethau sydd wedi gwneud i fi a’i dad feddwl bod awtistiaeth ar Gwion.”

Diagnosis

Mae hi bron yn amhosib i Gwion gael ei weld, heb sôn am gael diagnosis, yn ôl Diane Thomas.

“Ddylai fod rhieni ddim yn gorfod ymladd fel hyn dros gael diagnosis,” meddai.

“Mae o yn lot fawr o stress ar deuluoedd.

“Dylai cael diagnosis fod yn hawdd i’r plentyn hefo awtistiaeth gael y gefnogaeth maen nhw angen.

“Bysai cael diagnosis yn help mawr i ni fel teulu, gan y bydden ni fel teulu yn gallu cael cefnogaeth hefyd, dim jest y plentyn.

“Mae Gwion yn y coleg ar hyn o bryd, a newydd orffen cwrs pathways 3, ac mae o yn mynd ymlaen i wneud gofal anifeiliaid yn y tymor newydd, ond dydyn ni ddim yn siŵr sut mae o yn mynd i ymdopi mewn dosbarth llawn, swnllyd na beth sydd yna i Gwion ar ôl gadael coleg.

“Felly bysai diagnosis yn agor llawer o ddrysau sydd wedi’u cloi i ni fel rhieni gael gwybod beth sydd yn dŵad nesaf.

“Ar y funud, rydyn ni mewn limbo.”