Mae angen neilltuo arian ar gyfer clybiau ieuenctid er mwyn sicrhau eu bod yn gallu goroesi’r argyfwng costau byw, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.
Wrth siarad â golwg360, dywed Rocio Cifuentes fod clybiau ieuenctid yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobol ifanc yng Nghymru yn “iach, hapus ac yn ddiogel”.
Fodd bynnag, mae hi’n pryderu beth fydd eu dyfodol wrth i gostau byw cynyddol ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw allu aros yn agored.
“Mae pwysau aruthrol wedi dod yn sgil y cynnydd sylweddol mewn costau cyfleustodau fel nwy a thrydan,” meddai Rocio Cifuentes.
“Rwy’n meddwl mai dyna fu’r pwysau uniongyrchol mwyaf sylweddol.”
‘Dyfodol yn y fantol’
Daw hyn yn dilyn sylwadau gan y Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, sy’n cynrychioli tua 150 o fudiadau o’r fath yng Nghymru.
Dywedon nhw eu bod nhw’n bryderus fod dyfodol llawer o glybiau ieuenctid Cymru yn y fantol.
“Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn darparu swm sylweddol o arian ar gyfer gwaith ieuenctid i’r 22 awdurdod lleol sydd gennym yng Nghymru,” meddai Rocio Cifuentes.
“Fodd bynnag, nid yw’r cyllid hwnnw wedi’i neilltuo ar hyn o bryd sy’n golygu nad oes rhaid ei ddefnyddio ar gyfer gwaith ieuenctid.
“Oherwydd bod awdurdodau lleol dan gymaint o bwysau ariannol, ar hyn o bryd maen nhw’n gallu gwario’r arian ar wasanaethau eraill.
“Hoffwn weld y rheol honno’n cael ei newid i wneud yn siŵr bod yr holl gyllid sy’n cael ei ddarparu ar gyfer gwaith ieuenctid yn cael ei wario yno oherwydd rwy’n meddwl bod plant yn haeddiannol ac angen y cyfleusterau hyn nawr yn fwy nag erioed.”
‘Wedi gwreiddio yn eu cymunedau’
Dywed y Comisiynydd fod yr argyfwng costau byw wedi dod â phwysau ychwanegol i bobol ifanc, a bod gwir angen cymorth “hollbwysig” ar wasanaethau ieuenctid.
“Mae clybiau ieuenctid yn rhannau hollbwysig o’n cymunedau yng Nghymru,” meddai.
“Gallan nhw ddarparu lle diogel i bobol ifanc fynd ar ôl ysgol neu gallan nhw ddarparu oedolion mae modd ymddiried ynddyn nhw i bobol ifanc siarad â nhw a rhannu eu pryderon â nhw.
“Mae’n drist iawn clywed eu bod nhw mewn perygl oherwydd pwysau ariannol, felly dw i wir yn gobeithio y bydd modd eu cefnogi a’u hachub.
“Mae rhai o’r sefydliadau a’r elusennau hyn wedi’u gwreiddio mor ddwfn yn eu cymunedau lleol, fel y byddai’n anodd iawn i unrhyw sefydliadau eraill lenwi’r bwlch y gallen nhw ei adael,” meddai.
“Mae yna berthnasoedd o ymddiriedaeth sydd wedi hen ennill eu plwyf, sydd weithiau wedi bod gyda’r grŵp cymunedol penodol hwnnw ers cenedlaethau.
“Rwy’n meddwl mai dyma pam ei bod mor bwysig bod y grwpiau a’r sefydliadau hyn yn cael eu cefnogi oherwydd bod y gwerth y maent yn ei ddarparu gymaint yn fwy na’r gost ariannol o’u cefnogi ar hyn o bryd.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.