Mae’r ddeddfwriaeth gyntaf i gael ei llunio fel rhan o gynllun i wneud cyfraith Cymru’n fwy hygyrch wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw (dydd Mercher, Mehefin 14).

Fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r gyfraith fel ei bod hi’n haws ei deall a’i defnyddio, mae deddfwriaeth ar ddiogelu henebion ac adeiladau hanesyddol wedi cael ei chydgrynhoi.

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn dod â’r prif ddarnau o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru ynghyd.

Am y tro cyntaf erioed hefyd, bydd y gyfraith ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei chyhoeddi’n gwbl ddwyieithog.

Mae’r gyfraith wedi cael ei moderneiddio a’i threfnu, ac wedi’i hysgrifennu mewn iaith syml, bob dydd.

‘Diogelu amgylchedd hanesyddol Cymru’

Yn dilyn y seremoni selio swyddogol, dywedodd Cwnsler Cyffredinol Cymru Mick Antoniw y bydd y Ddeddf yn gwella’r modd mae treftadaeth bensaernïol ac archeolegol Cymru’n cael ei rheoli.

Mae’r ddeddf yn canolbwyntio ar ddiogelu henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig.

“Bydd y Ddeddf hon yn golygu y gall perchnogion henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig ddod o hyd i’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen arnynt i gyd mewn un man,” meddai Mick Antoniw.

“Bydd y ddeddfwriaeth wedi’i threfnu mewn modd rhesymegol, wedi’i drafftio mewn iaith ddealladwy ac wedi’i chyhoeddi’n ddwyieithog.

“Yn ei dro felly, bydd amgylchedd hanesyddol Cymru yn cael ei ddiogelu a’i reoli’n well yn y dyfodol.”

Mick Antoniw gyda’r ddeddfwriaeth

‘Dealladwy i fwy o bobol’

Mae’r Ddeddf yn rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, ac mae gwaith ar y gweill i foderneiddio a symleiddio cyfraith cynllunio hefyd.

“Mae hwn yn gam sylweddol ar ein taith tuag at sicrhau bod y gyfraith yn hygyrch ac yn ddealladwy i fwy o bobol,” meddai Mick Antoniw.

“Bydd ein rhaglen yn helpu pobol i ddeall eu hawliau a’u rhwymedigaethau cyfreithiol, sy’n gwbl greiddiol i gynnal democratiaeth iach.”