Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd i reoli nifer ail dai’r sir “am fod yn help” i gadw trefn ar y sefyllfa, yn ôl un cynghorydd sir.
Cyngor Gwynedd oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i drafod rheoli nifer yr ail dai yn eu sir, ac fe wnaethon nhw benderfynu mewn cyfarfod ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 13) y bydden nhw’n cymeradwyo gwneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r hawl i gynghorau sir y wlad reoli nifer yr ail dai yn eu hardaloedd am y tro cyntaf.
Mewn sir lle mae tua 8,000 o dai haf, 3,600 o bobol ar restrau aros am dai cymdeithasol, a 150 yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref i’r Cyngor bob mis, dyma oedd yr amser tyngedfennol i ddod i benderfyniad.
Mae’r Cyngor yn ceisio ffeindio cartrefi i bobol ddigartref, ond does dim digon o gartrefi felly maen nhw’n dueddol o dalu i roi pobol ddigartref mewn gwestai.
Y penderfyniad
Er bod penderfyniad wedi’i wneud fod rhaid i bobol ofyn caniatâd i droi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau, fydd hynny ddim yn dod i rym am flwyddyn eto.
Yn ogystal, bydd y cynllun gweithredu tai i ddarparu mwy o dai yn cael ei gynyddu.
“Mae’r Cabinet wedi gwneud penderfyniad i gymeradwyo beth rydym yn galw yn Gyfarwyddyd Erthygl 4,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr Amgylchedd ar Gyngor Gwynedd, ac yn cynrychioli ward Arllechwedd.
“Fydd o ddim yn dod i rym am dros flwyddyn, oherwydd mae angen mynd i ymgynghori a ballu.
“Unwaith bydd hwnna’n dod i rym, bydd yn rhoi’r hawl i’r Cyngor i reoli tai, a defnydd tai.
“Bydd rhaid i rywun ofyn caniataid cyn troi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau dros dro; hwnnw fydd y newid mwyaf.
“Fydd dim gofyn iddynt ofyn am ganiatâd cynllunio i’w troi yn ôl.
“Mae’n mynd un ffordd i bob pwrpas.
“Bydd angen caniatâd cynllunio i droi cartref parhaol yn ail gartref neu lety gwyliau, ond ddim i droi ’nôl i gartref cyntaf.
“Mae am fod yn help.
“Hynny ydy, mae hwn yn un arf o nifer o bethau sydd gennym ar y gweill.
“Mae gennym gynllun gweithredu tai sydd yn werth £77m.
“Rydym wedi’i gynyddu fo, mae hwnna’n mynd i fod yn gweithredu er mwyn darparu mwy o dai o wahanol fathau.
“Ar un llaw, rydym yn gwneud hyn fel sir, ond yn y gorffennol dydyn ni heb gael rheolaeth dros y tai sy’n cael eu colli i fod yn ail gartrefi.
“Mae hwn yn mynd i fod yn help i ni reoli’r niferoedd o dai sydd yn troi yn ail gartrefi, yn y gobaith y bydd yna rai ohonynt yn troi yn ôl.”