Enw llawn: Gwydion Powel Rhys
Dyddiad geni: 2003
Man geni: Bangor. Wedi byw yn Rachub drwy gydol fy mhlentyndod; nawr yn rhannu amser rhwng Rachub yn ystod y gwyliau, a Llundain yn ystod y tymhorau academaidd.
Cymro a myfyriwr Cyfansoddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain yw Gwydion Powel Rhys, sydd ym mlwyddyn olaf ei gwrs is-radd pedair blynedd, ac mae’n gobeithio parhau gyda’i astudiaethau ar lefel ôl-radd. Petai’n gorfod disgrifio’i hun mewn tri gair, ‘serchog, bywiog a cherddorol’ fyddai’r geiriau hynny. Fe ddechreuodd ei gariad tuag at gerddoriaeth yn fuan yn ei blentyndod, gyda neb llai na Julian Lloyd Webber yn creu argraff arno.
“Yn 2010, pan oeddwn i’n saith mlwydd oed, gwyliais bennod o’r rhaglen deledu ZingZillas ar CBeebies; ym mhob pennod, roedd cerddor proffesiynol yn perfformio gyda chymeriadau’r sioe, ac un o’r perfformwyr yn y gyfres gyntaf oedd Julian Lloyd Webber. Gwylio’r bennod yna oedd beth wnaeth fy ysbrydoli i ddechrau dysgu chwarae’r cello.”
Un o’i atgofion cerddorol cynharaf yw cwrdd â’i athrawes cello gyntaf, Nicki Pearce.
“Dw i’n cofio sticeri yn cael eu rhoi ar fyseddfwrdd y cello er mwyn i mi wybod lle i symud fy llaw chwith. Yn fwy diweddar, dw i’n cofio perfformio ar y cello mewn datganiadau gyda fy nhad ar y piano, yn enwedig ar ddwy adeg pan aethom gyda Chôr Rygbi Gogledd Cymru i Fflandrys yn 2014 a 2017 er mwyn cofio milwyr Cymreig fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.”
Cyflawniadau
Yn 2014 a 2016, pan oedd Gwydion yn un-ar-ddeg a thair-ar-ddeg mlwydd oed, cafodd gyfle i arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng ngweithdai BBC Deg Darn. Ac ym Medi 2016, fel rhan o Proms yn y Parc, cafodd gyfle i’w harwain mewn perfformiad byw ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn.
Fe basiodd radd 8 Piano yn 2018, a’r Diploma ARSM Cello yn 2019, a’r ddau ag anrhydedd.
Ond dyw’r cyflawniadau ddim yn gorffen yn fan’no. Enillodd y Fedal Gyfansoddi (o dan 25 mlwydd oed) yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin yn 2023, am ei gyfansoddiad ‘Pum Pedwarawd’ (ar gyfer ffliwt, fiola, telyn ac offerynnau taro). Roedd y beirniaid “yn unfrydol bod darganfod y llais ifanc yma, drwy’r brif gystadleuaeth bwysig hon, yn hynod o gyffrous ar gyfer dyfodol a chenhedlaeth nesaf o gyfansoddwyr Cymru”.
Ym mis Gorffennaf, enillodd Gystadleuaeth Cyfansoddiad Ensemble Mawr yr RCM gyda dau ddarn ar gyfer cerddorfa; y wobr fydd perfformiad o’r darnau yn y Coleg, rywbryd yn ystod tymor y gwanwyn!
Rhai o’i brif ddylanwadau yw ei rieni, yn enwedig ei dad Stephen.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae fy nhad wedi fy annog i greu cerddoriaeth yn amlach, yn hytrach nag amsugno pethau dibwys drwy’r amser – “Be a creator, not a consumer” medda fo.
Dylanwadau eraill amlwg arno oedd Nicki Pearce a Jennifer Langridge, y ddwy athrawes cello wnaeth ei ddysgu rhwng gwersi yng Nghymru (2010-2017) ac ym Manceinion (2017-2021).
“Yn ystod, a thu allan i fy astudiaethau, roedd eu caredigrwydd, eu cefnogaeth a’u cyngor cerddorol a thechnegol nhw yn werthfawr tu hwnt. Er nad ydw i’n chwarae’r cello mor aml ag oeddwn i’n arfer gwneud, dw i’n dal i werthfawrogi faint o fudd gefais i o fy astudiaethau gyda nhw.”
Dau ddylanwad arall oedd Steven Isserlis, un o’r chwaraewyr cello proffesiynol cyntaf iddo wybod amdano, ac Alison Kay, ei diwtor cyfansoddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol.
“Mae [Alison Kay] wedi fy annog i gynllunio fy ngherddoriaeth mewn ffordd ‘fyd-eang’, yn lle cyfansoddi o eiliad-i-eiliad drwy’r amser, ac wedi fy helpu i ddatblygu a choethi fy llais fel cyfansoddwr. Oherwydd yr anogaeth yma, dw i wedi cyfansoddi tipyn o gerddoriaeth ers dechrau astudio yn Llundain!”
Cymru a Llundain
Mae bywyd yng Nghymru a Llundain yn eithaf gwahanol i’w gilydd, meddai.
“Yn Llundain, dw i mewn ardal lawer mwy dinesig o gymharu â fy nghartref yng Nghymru, ond dw i’n hoffi’r ffaith nad yw’r man penodol yn Llundain lle dw i’n byw yn rhy swnllyd. Dw i hefyd yn medru cysylltu â chyd-gyfansoddwyr a chyd-gerddorion yn llawer amlach pan dw i yn Llundain, ac mae’r dewis o bethau gwahanol i’w gwneud yn dipyn mwy eang yn Llundain nag ydyn nhw yng Nghymru.”
Ond mae Cymru yn “teimlo’n dipyn fwy tawel a gosteg na Llundain” iddo.
“Mae Cymru yn rhoi awyrgylch meddyliol gwahanol i mi weithio ar fy nghyfansoddiadau, a chyfleoedd i chyfarfod a dal i fyny gyda hen ffrindiau. Weithiau, dw i’n colli fy ffrindiau o Lundain tra dw i yng Nghymru – nid nad ydw i’n cymryd presenoldeb unrhyw ffrindiau yn ganiataol. Mae’n beth od, ond dw i’n gallu teimlo hiraeth tuag at Gymru tra dw i yn Llundain, a theimlo hiraeth tuag at Lundain tra dw i yng Nghymru – mae’n dangos pa mor bwysig mae’r ddau le yna i mi!”
‘Diod mewn caffi yn Vienna’
Tasai Gwydion yn cael diwrnod yng nghwmni unrhyw un o gwbwl, diwrnod yng nghwmni’r cyfansoddwr Erich Wolfgang Korngold (1897-1957) fyddai hwnnw.
“Fe yw fy hoff gyfansoddwr i ers i mi fod yn fy arddegau, a dw i wastad yn gwirioni ar grefft a chyfoethogrwydd emosiynol ei gerddoriaeth. Er y dechreuodd ei yrfa fel athrylith ifanc, gyda’i gerddoriaeth yn cael ei berfformio yn rhyngwladol cyn iddo droi’n ugain mlwydd oed, erbyn diwedd ei fywyd roedd ei arddull gerddorol ôl-Ramantaidd (a’i holl sgorau ffilm ar gyfer Hollywood) yn ymddangos yn reit hen-ffasiwn o gymharu â chyfansoddwyr eraill o’r cyfnod.
“Baswn i wrth fy modd yn sgwrsio gyda fo dros ddiod mewn caffi yn Vienna (lle cafodd ei fagu), ac i’w sicrhau fod yna bobol yn y byd sy’n edmygu ei gerddoriaeth yn fawr iawn. Dychmygaf y basa tipyn o chwerthin yn ystod ein sgwrs – yn ôl y sôn, roedd gan Korngold synnwyr digrifwch gwerth chweil!”
Prif obaith Gwydion ar gyfer y dyfodol yw datblygu gyrfa fel cyfansoddwr ac arweinydd – yn benodol fel cyfansoddwr sy’n arwain, yn hytrach nag arweinydd sy’n cyfansoddi.