Enw Llawn: Bedwyr Gwyn Parri

Dyddiad Geni: 02/03/1989

Man Geni: Deiniolen (ganwyd yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor)


Cwnselydd proffesiynol yw Bedwyr Gwyn Parri wrth ei waith. Petai’n disgrifio’i hun mewn tri gair, ‘croesawgar, anfeirniadol, a chariadus’ fyddai’r geiriau hynny. Mae’n ganwr profiadol sydd wedi perfformio i gynulleidfaoedd niferus ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, ac mae cerddoriaeth yn rhedeg drwy’i wythiennau gan iddo dyfu i fyny yn clywed sŵn piano drwy’r tŷ – sŵn ei fam, y pianydd Annette Bryn Parri, yn canu’r piano. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio i wasanaeth cwnsela Gwynedd a Môn, ei swydd lawn amser gyntaf ers iddo raddio o Brifysgol Bangor.

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn drên sgrech o emosiynau i Bedwyr. Mae wedi profi gwefrau blynyddoedd hapusaf ei fywyd, ond hefyd wedi goroesi rhai o brofiadau anoddaf ei fywyd – a hynny o fewn ychydig flynyddoedd yn unig i’w gilydd.

“Dw i wedi cael llawer o ddigwyddiadau yn fy mywyd, mewn cyfnod digon byr. Y fraint o fod yn dad i ddau o blant, priodi, a graddio mewn tair blynedd! Cyfnod hapusaf fy mywyd, heb os. Ond ar y llaw arall, collais fy nhad fis Tachwedd 2021; cafodd Dad ganser ar yr iau. Cafodd Dad ei ddiagnosis o gwmpas y cyfnod clo – y cyfnod hwnnw, wrth gwrs, yn gyfnod heriol i lawer. Roeddwn i yn magu, gweithio, astudio, a dygymod gyda diagnosis Dad yr un pryd.”

Petai Bedwyr yn cael treulio diwrnod yng nghwmni unrhyw rai yn y byd bellach, yn fyw neu’n farw, yng nghwmni ei dad, ei ddiweddar deidiau a nain, a chael cyngerdd gan Pavarotti a Rebroff yn y cefndir fyddai hynny, meddai.

“Roedd Dad wrth ei fodd yn mynd i westy Dolbadarn, Llanberis am ginio dydd Sul, cael peint yn y bar wrth sgwrsio, mynd ymlaen i gael cinio, ac ymlacio wedyn o flaen y tân glo oedd yno. Erbyn hyn, mae’r Dolbadarn wedi cau fel gwesty, a Dad wedi ein gadael ni. Felly, cwmni Dad, fy niweddar deidiau a nain, a chael cyngerdd gan Pavarotti a Rebroff yn y cefndir!”

Chwalu stigma

Fel cwnselydd proffesiynol, mae’n sôn ei fod yn clywed yn aml fod yna “stigma am ofyn am help”, ond mae gofyn am gymorth yn dangos cryfder a dycnwch, meddai.

“Mae cwnsela yn gallu bod yn bersonol, unigryw i’r unigolyn, ond yn bwysicaf oll, yn le saff i gael rhannu emosiynau a theimladau. Mae’n gallu bod yn ofod diogel i gyrraedd rhyw fath o sylweddoliad. Cwnsela i fi ydi empathi, diogelwch, gonestrwydd, a pharch.”

Mae Bedwyr wedi gweithio mewn gwaith therapiwtig am gyfnod hir, mewn ysgol uwchradd, ac fel swyddog therapiwtig i GISDA yng Nghaernarfon. Mae cefnogi pobol wedi bod yn bwynt canolog yn ei waith, meddai.

“Dw i’n hynod ddiolchgar i GISDA am gael profiad o weithio gyda phobol ifanc. Mae’r cyfle yma wedi siapio fy sgiliau empathi, cynnig ystafell saff i unigolyn gael rhannu profiadau heriol, ac weithiau tywyll. Yn ffodus iawn, cefais le fel myfyriwr i ‘Adferiad’ mewn dau brosiect, sef ‘Camfa’ a ‘Caniad’; ‘Camfa’ yn cynnig gwasanaeth cwnsela i bobol gyda phrofiad o iselder a gorbryder, a ‘Caniad’ yn cefnogi pobol sydd â phrofiad o gam-drin sylweddau.”

Mae Bedwyr yn credu bod trafod iechyd meddwl, erbyn heddiw, yn beth sydd yn fwy agored i ddynion.

“Mae’n bwysig cofio bod y geiriau ‘man up‘ wedi cael eu defnyddio yn aml dros y blynyddoedd, ac yn cael eu derbyn mewn cymdeithas, a ddim yn cael ei gwestiynu.”

Ond bellach, meddai, fe wyddom nad dyna’r ymateb i’w roi i unrhyw un sy’n dioddef gydag iechyd meddwl.

“Dwi’n credu mewn cymdeithas, ac yn sicr dw i’n gweld newidiadau mewn agwedd tuag at iechyd meddwl dynion mewn cymdeithas glos,” meddai.

“Yn ddiweddar, dw i wedi bod mewn cyswllt gyda grŵp “Be am dad?” sydd yn grŵp o aelodau sy’n cynnig cymorth i’w gilydd fel rhieni newydd ar gyfnodau o ansicrwydd a chwestiynau fel rhiant newydd, felly mae yna grwpiau a chymorth i’w darganfod, ac mae’n bwysig i ddynion, a merched wrth gwrs, gofio nad ydyn nhw ddim ar ben eu hunain, ma yna wastad rhywun yno sydd eisiau helpu drwy gynnig gofod saff, sydd mor werthfawr i ni gyd.”

Unigrwydd

Mae’n debyg fod unigrwydd yn rhywbeth sy’n mynd i effeithio y rhan fwyaf ohonom.

“Yn sicr, mae hi’n bosib teimlo’n unig yng nghanol pobol agos, nid yn unig mewn arwahanrwydd, ac nid oes un profiad o unigrwydd yr un fath wrth gwrs.”

Sonia fod y pandemig wedi profi bod unigrwydd yn effeithio ar lawer ohonom, nid yn unig yn feddyliol ond yn gorfforol hefyd.

“Mae angen codi ymwybyddiaeth am wasanaethau sy’n cynnig cefnogaeth, boed yn grwpiau cymdeithasol a lleol, i fanteisio ar y cyfle i gyfarfod a chymdeithasu. Mae’n hollbwysig cofio – mae yna wastad rhywun angen cymorth, ac mae codi ymwybyddiaeth am safleoedd gwahanol i ddarganfod y gefnogaeth yma i daclo unigrwydd yn hynod bwysig.”

Erbyn hyn, mae Bedwyr wrthi’n creu gwefan newydd i gynnig gwasanaeth cwnsela dwyieithog o’r enw Cwnsela LLAIS Counselling – gwasanaeth wyneb i wyneb, ar y ffôn, neu ar-lein.

“Rhywbeth gonest amdana i, tydw i ddim yn credu mewn be’ maen nhw yn alw yn “rhestr-aros am gwnsela”, felly dw i’n gweithio’n galed i mi allu cynnig y gwasanaeth dw i’n credu ynddo.

“Roedd Dad yn credu yn gryf yn y geiriau, “Speak as you find“, ac mae’r geiriau yma yn asgwrn cefn i fi fel cwnselydd i fod yn “gyfath (congruent)”. Dw i’n gallu clywed Dad yn dweud y geiriau yma. Felly, drwy ddilyn geiriau Dad, dw i wedi gweld y gwahaniaeth rhwng sympathi ac empathi.

“Fydda i wastad yn meddwl am weld rhywun mewn gwaelod ffynnon, mewn perygl, yn unig ac oer. Sympathi, wrth gwrs, ydi dweud, “Gobeithio fydd y person adref yn saff mewn dim”. Ond empathi yw rhoi dy hun lawr yn y ffynnon efo’r unigolyn hwnnw, a gweld sut deimlad ydi o. Rôl cwnselydd ydi bod yna efo’r unigolyn yng ngwaelod y ffynnon, a dweud y geiriau, “Dw i yma efo chdi, dw i ddim yn mynd i nunlla”.