Mae 240 o negeseuon gan bobol ifanc wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru fel rhan o ymateb Cymdeithas yr Iaith i bapur gwyn ar Ddeddf Addysg Gymraeg.
Mae’r Gymdeithas yn galw am addysg Gymraeg i bawb, wrth i’r Llywodraeth gynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd.
Dywed Mabli Siriol Jones, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, fod y cynigion sy’n rhan o’r ymgynghoriad yn “gam mawr ymlaen”.
‘Beth am y 50% arall?’
Ond dim ond 50% o ddisgyblion fyddai’n derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050 yn ôl y cynnig, meddai, gan ofyn “Beth am y 50% arall?”
“Mae angen rhoi pob ysgol ar daith at fod yn rhai cyfrwng Cymraeg dros amser a sefydlu un llwybr dysgu’r Gymraeg fel bod pob un disgybl yn derbyn addysg Gymraeg – beth bynnag eu cefndir, ble bynnag maen nhw’n byw,” meddai.
“Dyna’r unig ffordd i sicrhau eu bod yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus.
“Mae’n bwysig bod llais pobol ifanc yn cael ei glywed, felly yn Eisteddfod yr Urdd fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw ddweud pam eu bod nhw’n credu y dylai pob un gael addysg cyfrwng Cymraeg.
“Roedd yr ymatebion yn gadarnhaol iawn, gan rai sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd ac eisiau i bawb gael yr un cyfleoedd â nhw, a gan ddisgyblion sydd ddim yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ond sy’n gweld y byddan nhw’n colli pob math o gyfleon gwaith a diwylliannol yn y dyfodol, o beidio cael addysg Gymraeg.”
Siaradwyr ail iaith ar eu colled?
Ymysg y rhai oedd yn cyflwyno’r cardiau roedd rhai oedd wedi astudio Cymraeg fel pwnc ail iaith yn yr ysgol, gan adael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn hyderus, ac sydd wedi dysgu Cymraeg fel oedolion.
Maen nhw’n gweld eu bod nhw wedi colli cyfleoedd, ac yn ategu negeseuon gan bobol ifanc Cymru y dylai pob un gael addysg Gymraeg.
“Mae cyfle gan y Llywodraeth i sicrhau nad oes cenhedlaeth arall o bobol ifanc yn gadael yr ysgol yn methu siarad Cymraeg yn ddigon hyderus – trwy osod nod yn y Ddeddf Addysg Gymraeg y bydd pob un disgybl yng Nghymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050,” meddai Mabli Siriol Jones.