Mae ardal de Morgannwg ymhlith yr ardaloedd gwaethaf yng ngwledydd Prydain am droseddau’n ymwneud â cheir, yn ôl arolwg newydd.

Yn ôl yr arbenigwyr Road Angel, mae’n ymuno â Gorllewin Canolbarth Lloegr, Llundain, Bryste a De Swydd Efrog ymhlith y pum ardal lle roedd y nifer fwyaf o droseddau yn ystod 2022.

Yn yr ardal honno o Gymru, roedd 7.56 o droseddau ym mhob 1,000 o’r boblogaeth.

12.64 yw’r ffigwr yn yr ardal waethaf, 11.87 yn Llundain, a 10.82 ym Mryste.

Ar y cyfan, derbyniodd heddluoedd Cymru a Lloegr 368,042 o adroddiadau am droseddau ceir at ei gilydd, a’r rheiny’n cynnwys dwyn cerbyd, dwyn o gerbyd neu ddifrodi car.

319,193 oedd y ffigwr cyfatebol yn 2021, ac mae arbenigwyr yn poeni y bydd y ffigurau’n parhau i gynyddu yn sgil yr argyfwng costau byw.

De Morgannwg yw’r unig ardal ar y rhestr sydd y tu allan i Loegr.

‘Gwyliadwrus’

“Hyd yn oed yn yr ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn fwy diogel, dylai perchnogion cerbydau barhau’n wyliadwrus gan fod troseddau ceir ar i fyny,” meddai Gary Digva, sylfaenydd Road Angel.

“Sicrhewch bob amser fod ffenestri i fyny, bod drysau wedi’u cloi, a bod eich allweddi’n ddiogel.

“Mae buddsoddi mewn dashcam hefyd yn syniad da, yn enwedig modelau â’r nodwedd ’modd parcio’, sy’n gallu monitro cerbydau tra eu bod nhw’n llonydd drwy sensor sy’n dechrau recordio os yw’n dod o hyd i aflonyddwch yn awtomatig, 24 awr y dydd.

“Gall dashcam weithredu fel dyfais ataliol, gan orfodi troseddwyr i feddwl ddwywaith cyn ffureta o amgylch ceir pobol neu achosi cryn ddifrod.”

Y rhestr yn llawn a’r gyfradd

  1. Gorllewin Canolbarth Lloegr, 12.64
  2. Llundain, 11.87
  3. Bryste, 10.72
  4. De Swydd Efrog, 8.52
  5. De Morgannwg, 7.56
  6. Swydd Bedford, 7.49
  7. Swydd Warwick, 7.42
  8. Swydd Buckingham, 6.90
  9. Gorllewin Swydd Efrog, 6.77
  10. Swydd Berkshire, 6.59