Mae Ieuan Williams, un o ddirprwy arweinyddion Cyngor Môn, wedi camu o’r neilltu yn dilyn sylwadau a wnaeth mewn cyfarfod mewnol ddydd Llun (Mehefin 12).

Yn ystod y cyfarfod, dywedodd y cynghorydd annibynnol fod angen “saethu pob Ceidwadwr.”

Yn dilyn ei sylwadau, mae wedi cyfeirio ei hun at y Pwyllgor Safonau, gan ddweud mewn datganiad ei fod yn “ymddiheuro’n fawr am unrhyw niwed a gafodd ei achosi gan fy sylw amhriodol.”

“Cafodd y sylw ei wneud ar ddiwedd datganiad llawn emosiwn, yn dilyn cyflwyniad ar dlodi ar Ynys Môn,” meddai.

“Yn amlwg, nid wyf yn dadlau o blaid saethu unrhyw un ac rwyf wedi ymddiheuro i’r holl aelodau oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

“Rwyf hefyd wedi cyfeirio fy hun at y Pwyllgor Safonau ac wedi ymddiswyddo fel dirprwy arweinydd ac aelod o’r weithrediaeth tra bod unrhyw ymchwiliad posib yn cael ei gynnal.”

Dywed fod y cyflwyniad wedi datgelu bod cynnydd o 99% mewn defnydd o fanciau bwyd ar Ynys Môn ers Tachwedd 2022, tra bod bron i draean o blant yr ardal yn byw mewn tlodi.

“Nid yw hyn yn ymwneud ag unrhyw unigolyn,” meddai.

“Y mater go iawn dan sylw yma yw’r hyn a’m gwnaeth mor flin ac emosiynol yn y lle cyntaf.”

‘Gwbl anfaddeuol’

Ymysg rheiny sydd wedi ymateb i’r sylwadau mae Sam Rowlands, llefarydd Lywodraeth Leol y Ceidwadwyr Cymreig.

“Roedd sylw’r Cynghorydd Williams yn ofnadwy ac yn gwbl anfaddeuol,” meddai.

“Mae gwleidyddion ym Mhrydain wedi wynebu lefelau sylweddol o gamdriniaeth, ac mae dau AS wedi colli eu bywydau yn ddiweddar.

“Mae’r Chwith yn aml yn hoffi rhoi arwydd o rinwedd am wleidyddiaeth fwy caredig a mwynach, ond yna yn dod allan gyda sylwadau fel hyn.

“Yn anffodus, nid dyma’r tro cyntaf i wleidyddion asgell chwith fygythiadau o drais yn ystod y misoedd diwethaf – gwnaeth Cynghorydd Caerffili sylwadau bygythiol ar gyfryngau cymdeithasol wrth esgusodi gyda gwn.

“Rwyf hefyd yn bryderus bod prif weithredwr y cyngor wedi gofyn i’r sylwadau beidio â chael eu cofnodi – mae unrhyw ymgais i guddio’r math hwn o sylw yn annerbyniol, a dylai fod yn atebol.”

‘Casineb’

Dywed Dylan J Williams, Prif Weithredwr Cyngor Môn, fod y sylwadau yn “amhriodol ac yn annerbyniol”.

“Fel Prif Weithredwr, dydw i ddim yn gyfrifol am sylwadau unigol a wneir gan aelodau etholedig,” meddai.

“Yn y cyfamser, mae o hefyd wedi sefyll i lawr fel Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg.”

Dywed Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Môn, mai “casineb” yw’r sylwadau.

“Mae’r Cynghorydd Williams yn gwybod fy mod yn gwisgo fest atal trywanu mewn cymorthfeydd ond mae’n dal i ddweud yn y dylwn i ac eraill sy’n Geidwadwyr gael eu saethu,” meddai.