“Bydd yn cymryd blynyddoedd i lywodraethau weithredu” yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell, yn ôl Jane Dodds.
Daw sylwadau arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru chwe blynedd union ers y trychineb yn Llundain ar Fehefin 14, 2017.
Bu farw 72 o bobol pan ddechreuodd y tân toc cyn 1 o’r gloch y bore yn yr adeilad 23 llawr yn Kensington.
Lledodd y tân ar waliau allanol yr adeilad ac erbyn 3 o’r gloch, roedd y rhan fwyaf o’r lloriau uchaf ar dân.
Mae sawl adroddiad wedi nodi mai’r cladin ar yr adeilad oedd achos y tân.
“Heddiw, cofiwn y 72 o bobol gollodd eu bywydau yn nhân Grenfell, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymuned,” meddai Jane Dodds.
“Fe wnaeth y tân gymryd drosodd cartrefi pobol o fewn oriau, ond chwe blynedd yn ddiweddarach a does neb wedi’u dwyn i gyfrif a bydd yn cymryd blynyddoedd i lywodraethau weithredu.”