Dydy hanner plant Cymru ddim wedi cael eu dysgu am arian gartref nac yn yr ysgol, yn ôl adroddiad newydd.

Cafodd 4,740 o blant rhwng saith ac 17 oed dros wledydd Prydain eu holi, a dim ond 51% o’r rhai sy’n byw yng Nghymru sy’n cofio cael addysg am arian.

Ar ôl ymestyn yr arolwg i blant pump a chwech oed, mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau’n amcangyfrif bod dros 220,000 o blant yng Nghymru heb y sgiliau ariannol sydd eu hangen arnyn nhw wrth dyfu.

Dywedodd 24% eu bod nhw’n cofio cael addysg ariannol yn yr ysgol yr oedden nhw’n ei ystyried yn ddefnyddiol.

Mae’r adroddiad yn nodi bod 18% o’r plant wedi dweud eu bod nhw’n derbyn arian rheolaidd gan rieni neu swydd, bod eu rhieni’n gosod rheolau arno, a’u bod yn cael cyfrifoldeb dros benderfyniadau gwario.

Dywedodd 9% arall eu bod nhw wedi cael addysg gan eu rhieni a’r ysgol.

Plant yn yr Alban oedd fwyaf tebygol o dderbyn addysg ariannol (52%), yna Cymru, Lloegr (46%) a Gogledd Iwerddon (43%).

Fel rhan o’u strategaeth dros y Deyrnas Unedig, mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau, sy’n cael eu noddi gan Adran Waith a Phensiynau Llywodraeth San Steffan, yn anelu at sicrhau bod dwy filiwn o blant rhwng pump ac 17 oed yn derbyn addysg ariannol ystyrlon dros y Deyrnas Unedig erbyn 2030, gyda 90,000 ohonyn nhw yng Nghymru.

Er mwyn cyrraedd y targed, mae gofyn i rieni siarad â’u plant am arian drwy sefyllfaoedd bob dydd fel siopa bwyd, cyllidebu a chyflogau o swydd ran amser.

Mae’r Gwasanaeth yn gweithio’n agos gydag ymarferwyr, cyllidwyr a Llywodraeth Cymru ar fentrau fel treialu hyfforddiant athrawon addysg ariannol, ond maen nhw’n dweud bod mwy i’w wneud i roi’r cyfle i bob plentyn yn y wlad.

‘Codi ofn’

Bydd yr ystadegau yn “codi ofn” ar bawb ym myd addysg ariannol oherwydd gallai cannoedd ar filoedd o blant fynd heb addysg ariannol, yn ôl Rheolwr Cymru yn y Gwasanaethau Arian a Phensiynau.

“Mae ein profiadau yn ystod plentyndod yn ein paratoi ar gyfer bod yn oedolyn ac nid yw dysgu am arian yn wahanol,” meddai Lee Phillips.

“Mae’n dod yn rhan o fywyd bob dydd a gall ein penderfyniadau ariannol ddod â manteision gwirioneddol a chanlyniadau dwys, felly mae’n hanfodol dysgu o oedran ifanc.

“Yn amlwg mae llawer mwy i’w wneud o hyd ac mae gan bawb o fanciau a chymdeithasau adeiladu i sefydliadau ariannol a sefydliadau eraill ran fawr i’w chwarae.

“Gall rhieni ac ysgolion hefyd wneud gwahaniaeth enfawr trwy gyfuno sgiliau arian â phrofiadau bob dydd, y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth.

“Os ydym yn parhau i weithio gyda’n gilydd, gallwn helpu plant ledled Cymru i ddatblygu arferion arian cadarnhaol a fydd yn aros gyda nhw am oes.”