Ar Ddiwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 14), mae un sydd wedi rhoi gwaed tua 80 o weithiau’n annog eraill i roi.
Dim ond 3% o’r rhai sy’n gymwys i roi gwaed yng Nghymru sy’n gwneud hynny, ac un o’r rhain yw Olga Thomas o bentref Dinas ger Caernarfon, ddechreuodd roi gwaed yn 1967 yn ei hugeiniau cynnar.
Erbyn hyn, mae hi wedi colli cyfri faint o weithiau mae hi wedi rhoi gwaed, ac mae hi’n awyddus i bwysleisio ei bod hi’n broses hawdd a chyflym i achub bywydau.
Boddhad
“Ro’n i’n teimlo fel fy mod i eisiau helpu, a dydy o ddim yn costio dim byd – dim ond mynd ag ychydig o fy amser i,” meddai Olga Thomas, sy’n 78 oed, wrth golwg360.
“Ers hynny, mae o’n rhoi boddhad mawr i mi’n meddwl, gobeithio, fy mod i’n helpu rhywun yn rhywle neu’n achub rhywun yn rhywle, boed o’n blentyn bach neu’n oedolyn.
“Dydw i ddim ym mhell o fod wedi rhoi 80 o weithiau rŵan.
“Mae’n cymryd llai na phum munud erbyn hyn ac mae’r gwaed i mewn yn y bag.
“Jest meddyliwch faint o bobol mae’n achub – tri bywyd efo mymryn o waed rydan ni’n rhoi – dydy o ddim byd.
“Rydych chi’n dod allan yn meddwl a gobeithio eich bod chi’n achub bywyd.”
‘Peidiwch â disgwyl am ddamwain neu salwch yn y teulu’
Mae gan bawb eu rhesymau dros roi gwaed, ac er i Olga Thomas ddechrau yn yr 1960au, mae hi wedi gweld gwerth ei chyfraniad dros y blynyddoedd diwethaf.
“Peidiwch â disgwyl am brofiadau, damweiniau neu salwch o fewn y teulu… Ewch i roi gwaed ac fe gewch chi weld faint o foddhad gewch chi ohono fo,” meddai.
“Ges i brofiad o fynd i Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd dipyn yn ôl pan oedd fy ngŵr yn cael triniaeth am gancr, ac aethon ni mewn y diwrnod hwnnw pan oedd cleifion allanol yn mynd a dod yn cael gwaed.
“Ges i agoriad llygad o weld faint o waed oedd angen jest y diwrnod hwnnw.
“Os fysa nhw ddim yn cael y gwaed yna, sut fysa eu bywydau nhw, os fysa ganddyn nhw fywyd, wedi troi allan?
“Ar ôl y diwrnod hwnnw dw i’n diolch fy mod i’n rhoi gwaed, wir.”
Gair o gyngor
“Dydy pawb ddim yn gallu rhoi oherwydd gwahanol resymau ac mae yna rai sy’n ofn pinnau,” meddai Olga Thomas wedyn.
“Mae genna’i gydymdeimlad efo nhw, ond yr oll alla i ddweud ydy, jest gorweddwch yna, peidiwch ag edrych a throwch ffordd arall.
“Mae’r pin i mewn cyn i chi feddwl. Pigiad bach ac eiliad bach ydy o.
“Dydy o ddim yn boenus a dydy o ddim byd i boeni amdano – dyna’r oll alla i roi yn gyngor.”