Symudodd y Seciotherapydd Celf o Ganada, Maneula Niemetscheck, draw i Gymru yn 2004 wrth chwilio am antur newydd.
Derbyniodd swydd yn Ysbyty Gwynedd ac mae hi’n byw ym Methesda gyda’i theulu a’i phartner erbyn hyn.
Bellach, mae hi ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn ac yn angerddol dros yr iaith ac yn ei defnyddio yn ei gwaith.
‘Edrych ymlaen’ i gyfarfod y tri arall
Cafodd Manuela ei hysbrydoli i ddysgu Cymraeg nid yn unig oherwydd ei theulu a’i chymuned, ond hefyd gan ei bod yn credu bod defnyddio Cymraeg mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn eithriadol bwysig.
“Mae o’n gymaint o fraint a dw i ddim yn gallu credu fo,” meddai Manuela wrth golwg360.
“Dw i byth yn meddwl mae Cymraeg fi’n ddigon da, mewn ffordd.
“Felly mae o’n sioc ond mae o’n gyfle i fwynhau’r profiad a meddwl am sut dw i’n gallu gwella a sut dw i’n gallu rhoi sylw i fy ngwaith i hefyd.
“Dw i’n edrych ymlaen.
“Dw i byth wedi cystadlu mewn Eisteddfod felly mae hwn yn mynd i fod yn dro cyntaf i fi.
“Dw i’n rili edrych ymlaen i gyfarfod Alison, Roland a Tom hefyd a chlywed y daith maen nhw wedi bod ar i ddysgu Cymraeg.
“Mae o’n gymaint o ysbrydoliaeth pan ti’n clywed straeon pobol arall.”
Antur newydd yng Nghymru
Bu Manuela yn byw yng Nghatalonia am gyfnod cyn chwilio am her newydd yng Nghymru.
“Mae rhieni fi wedi teithio llwyth cyn symud i Ganada a dw i wedi tyfu fyny efo straeon o antur, felly dw i wedi bod eisiau cael antur fy hun.
“Yn y cychwyn, dw i ddim wedi gwybod lle dw i eisiau cychwyn ar antur fi.
“Ond wedyn wnes i symud i Gymru diwedd 2004 a chychwyn cyrsiau Cymraeg Wlpan yn 2005.”
Trwy ei anturiaethau’n teithio a’i phrofiadau gyda’i theulu, mae Manuela yn siarad pum iaith – Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Catalaneg a Chymraeg.
“Ond roedd fy rhieni yn siarad Almaeneg ac Almaeneg y Swistir efo’i gilydd hefyd, felly ges i fy magu o gwmpas ychydig o ieithoedd gwahanol, ond doedd fy rhieni ddim yn siarad ieithoedd nhw efo fi.
“O gael profiad o ddysgu ieithoedd gwahanol, dw i’n meddwl ti’n teimlo’n iawn yn swnio’n wahanol i sut ti byth wedi swnio o’r blaen, ac am gymryd risgiau a thrio pethau newydd – pethau pwysig iawn wrth ddysgu iaith.”
Er bod dysgu iaith fel oedolyn yn gallu cael ei weld fel mwy o her, mae Manuela’n teimlo bod buddion i ddysgu’n hŷn.
“Dw i’n meddwl hefyd pan ti’n dysgu iaith yn reit ifanc, ti ddim yn sylwi os ti’n gwneud camgymeriad, dw i’n mynd i gael sylw am hwnna, a dydy o ddim yn mynd i deimlo’n neis.
“Ond pan ti’n oedolyn ti’n poeni mwy am be mae pobol arall yn mynd i feddwl.
“Ond mae’r profiad o ddysgu ieithoedd pan ti’n hŷn yn helpu achos ti’n cyrraedd pwynt ble ti’n meddwl: ‘Dim ots os dw i’n gwneud camgymeriadau, dyma’r unig ffordd dw i’n mynd i ddysgu’.
“Does neb yn berffaith.”
Therapi celf ddwyieithog
Mae Maneula yn ceisio defnyddio’r Gymraeg yn ei gwaith ble bo hynny’n bosib, ac mae hi’n mynd â’r iaith allan i’r gymuned trwy ei swydd.
“Yn y gwaith, dw i’n siarad efo cydweithiwr fi yn Gymraeg, ac efo cleifion pan dw i’n cyflwyno fy hun, a phan dw i’n cyfarfod rhai newydd dw i’n gofyn os ydyn nhw’n siarad Cymraeg neu eisiau siarad Saesneg.
“Hefyd, dw i wedi rhedeg grŵp yn yr ysbyty ond rŵan dw i’n rhedeg grŵp yn y gymuned, a dw i’n defnyddio model dwyieithog.
“Felly dw i’n dechrau’r grŵp yn ddwyieithog ac yn cau’r grŵp yn ddwyieithog.
“Dw i eisiau i bobol deimlo croeso i siarad unrhyw iaith maen nhw eisiau.
“Dw i wedi sylwi, fel arfer pan mae yna gymysgedd o ieithoedd, mae’r sgwrs yn troi i Saesneg ond dw i wedi meddwl mae hwn yn teimlo fel colled fawr.
“Felly dw i wedi meddwl: ‘Oes yna ffordd arall o weithio grwpiau ble mae yna gymysgedd o ieithoedd?
“Felly dw i wedi datblygu’r model dw i’n defnyddio rŵan ble dw i’n cadw’r brawddegau’n fyr, a dechrau’n Gymraeg ac wedyn cyfieithu i Saesneg.”
Yn y gymuned, mae Manuela yn rhedeg grŵp therapi celf amgylcheddol sy’n gyfle i bobol ddefnyddio natur, yn hytrach na chelf arferol, i fynegi eu hunain.
“Rydan ni’n edrych ar y tymor, sut mae’r cylch yn troi o ran y tymhorau a’r teimladau mae hyn yn gallu codi.
“Rydan ni’n defnyddio Cymraeg i siarad am deimladau, am be rydan ni’n gweld mewn natur fel enwau coed, a phethau o fewn y diwylliant hefyd.
“Y peth fwyaf pwysig mewn therapi ydy’r berthynas a gweld y person, a rhan o hwnna ydy iaith a diwylliant nhw achos mae o mor agos i’w hunaniaeth nhw.
“Ti’n gallu teimlo teimladau gwahanol mewn ieithoedd gwahanol, ac mae hynny’n cysylltu efo atgofion.
“Ac weithiau mae atgofion wedi digwydd mewn iaith benodol, felly mae o’n rili pwysig i fod yn agored a meddwl am ieithoedd yn y berthynas.
“Mae’n gymhleth, ond ti’n gallu bod yn berson gwahanol mewn ieithoedd gwahanol.”