Mae’r grŵp sy’n gwrthwynebu defnyddio gwesty yn Llanelli fel hostel i geiswyr lloches wedi ymddiheuro i Dafydd Iwan am ddefnyddio’i gân ‘Yma o Hyd’.

Roedd Dafydd Iwan wedi gofyn i bobol beidio a’i defnyddio i wrthwynebu lletya ceiswyr lloches.

Mae Furnace Action hefyd yn gofyn iddo ailystyried ei gyfarwyddyd i “stopio” defnyddio ‘Yma o Hyd’ fel rhan o’u protest.

Yn ôl y grŵp, doedd yr ymgyrchwyr fu’n canu’r gân mewn protest ddim yn cynnwys grwpiau asgell chwith na dde.

Dywed llefarydd ar ran Furnace Action eu bod nhw’n cefnogi syniad Cyngor Sir Gaerfyrddin i ddosbarthu’r ceiswyr lloches ar draws y gymuned yn ehangach, “model sy’n cynnig cymaint mwy ar gyfer eu hiechyd a’u lles”.

“Mae ein hymddiheuriadau diffuant yn mynd i Dafydd Iwan am unrhyw dramgwydd y gallwn fod wedi’i hachosi,” meddai llefarydd ar ran Pwyllgor Furnace Action.

“Mae ‘Yma o Hyd’ yn anthem frwydr ar adegau o helbul gwleidyddol ac economaidd, ac nid oedd y flash mob a ddaeth ynghyd nos Wener (Mehefin 9) i ganu’r gân yn golygu unrhyw dramgwydd.

“Mae’r gwrthwyneb yn wir ac maen nhw’n arddel cymaint o barch at Dafydd Iwan fel eu bod yn teimlo y byddai’n cydymdeimlo â’u hachos.”

‘Cefnogi staff y gwesty’

Mae’r datganiad yn nodi bod dros gant o bobol wedi ymgynnull ar fyr rybudd nos Wener ddiwethaf i ddangos eu cefnogaeth i’r cant o staff yng Ngwesty Strade fydd â’u swyddi yn y fantol os aiff cynllun y Swyddfa Cartref i gartrefu tua 300 o geisiwyr lloches yno yn ei flaen.

“Nid oedd y cantorion yn cynnwys unrhyw grwpiau asgell chwith nac asgell dde ac roedd y grŵp yn cynnwys cefnogwyr deiseb Pwyllgor Furnace Action i atal cynllun y Swyddfa Gartref.

“Roedd y syniad i ganu ‘Yma o Hyd’ yn syniad ddaeth yn boblogaidd yn sydyn iawn yn y pentref nos Wener gan fod trigolion lleol eisiau dangos undod gyda staff Gwesty Parc y Strade, gweithwyr sydd bellach yn wynebu dyfodol mor llwm â’r un a wynebwyd gan y glowyr o dan Thatcher.

“Canodd y trigolion gyda’r fath ysbryd, angerdd fel bod eu geiriau’n bwerus.

“Byddwn yn ysgrifennu at Dafydd Iwan i ymddiheuro am unrhyw ypsetio, ond, yn y cyfamser, hoffem ei sicrhau bod y canu wedi’i wneud gyda’r bwriad gorau o gefnogi staff y gwesty.”

Safbwynt Dafydd Iwan

Ar Twitter ddydd Sul (Mehefin 11), dywedodd y canwr a’r ymgyrchydd Dafydd Iwan ei fod wedi darganfod bod protestwyr sydd yn erbyn cartrefu ceiswyr lloches wedi bod yn defnyddio ‘Yma o Hyd’.

Mae wedi gofyn i bobol beidio a’i ddefnyddio i wrthwynebu lletya ceiswyr lloches.

“Mae wedi dod i fy sylw fod ‘Yma o Hyd’ yn cael ei defnyddio gan grwpiau sy’n gwrthwynebu lletya ceiswyr lloches. Rhaid stopio!!,” meddai yn y neges.

Ddoe, dywedodd “Dw i jest eisiau gwneud hi’n glir nad ydw i’n cefnogi’r agwedd asgell dde a hiliaeth yn erbyn ceiswyr lloches.

“Y neges tu ôl i’r gân yw bod yn rhaid i ni frwydro dros ein hunaniaeth ond dyw hynny ddim yn golygu hynny rydyn ni’n cau ein drysau i bawb arall.”

Dywedodd wrth siarad ar BBC Radio Cymru ei fod wedi cael neges ers hynny gan grŵp sy’n gwrthwynebu defnyddio Gwesty’r Strade yn Llanelli ar gyfer ceiswyr lloches.

Fe wnaeth y grŵp esbonio eu bod nhw’n pryderu am swyddi yn y gwesty, a’u bod nhw o blaid cartrefu pobol mewn mannau eraill o’r sir.

“Dwi’n derbyn eu safbwynt nhw a dwi’n cefnogi eu safbwynt nhw… dw i’n deall y pryder ynglŷn â’r swyddi,” meddai wrth Post Prynhawn.

“Ond dydw i ddim eisiau neb o’r asgell dde i ddefnyddio ‘Yma O Hyd’ i wrthwynebu ceiswyr lloches.”