Bydd meddyg wnaeth fygwth ymprydio dros yr hawl i gael ysgrifennu cofnodion cleifion yn y Fasgeg yn rhannu ei brofiadau a’i ymchwil mewn cynhadledd yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
Bwriad y gynhadledd Ieithoedd Lleiafrifol mewn Addysg Iechyd yw adeiladu ar seiliau cynnar addysg iechyd mewn ieithoedd lleiafrifol ar draws y byd.
Y digwyddiad ddydd Iau (Mehefin 15), fydd cynhadledd amlgyfrwng, amlieithog gyntaf Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd a bydd y siaradwyr yn cynnwys cyfranwyr o Gymru, Gwlad y Basg, Canada, y Ffindir a Seland Newydd.
Yn ogystal â rhannu ymarfer da a chreu cysylltiadau newydd gyda chyfoedion ar draws y byd, gobaith y gynhadledd yw rhoi platfform i ddatblygu addysg iechyd, polisi iaith a chwricwlwm mewn ieithoedd lleiafrifol.
Cofnodion yn y Fasgeg
Bydd Aitor Montes Lasarte, sy’n feddyg teulu yn ysbyty Debagoiena, a Jon Zarate yn trafod ‘Newid Paradigm Gwlad y Basg’ ac yn edrych ar bwyntiau allweddol ar gyfer addysg iechyd prifysgol yno.
Mae gan Wlad y Basg ddwy iaith swyddogol – Basgeg sy’n cael ei siarad gan 37% o’r boblogaeth, a Sbaeneg, ac mae Gwasanaeth Iechyd Gwlad y Basg wedi datblygu rhaglenni ieithyddol i gwrdd ag anghenion cyfreithiol yn ymwneud â’r Fasgeg.
Ar y funud, mae gwaith ar y gweill i newid o bolisïau deddfwriaethol i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar y claf.
Mae tri phwynt yn codi allai wella gofal i bobol yn eu mamiaith, meddai Aitor Montes Lasarte, sef gwneud cofnodion yn iaith y claf; cofnodion electroneg; a defnyddio llwybrau gofal Basgeg fel ffordd addas ac effeithiol i benderfynu ar iaith y gwasanaeth drwy gydol y continwwm gofal.
“Fydda i’n siarad am y camau ymlaen yn yr hyn rydyn ni’n alw yn y ‘Normalisation Process’. Wrth gwrs, addysg ond yn enwedig y camau ymlaen i gynnig gofal iechyd i’n cleifion yn eu mamiaith neu’r iaith o’u dewis, yn yr achos yma Basgeg,” meddai Aitor Montes Lasarte, sydd hefyd yn aelod o’r gweithgor sy’n gyfrifol am Safonau ‘Access to Health and Social Services in Official Languages’ y Sefydliad Safonau Iechyd a SSF (Société Santé en Français), wrth golwg360.
Y mater cyntaf, ac un mae Aitor Montes Lasarte wedi bod ynghlwm ag ef yn uniongyrchol, yw pwysigrwydd cofnodion clinigol dwyieithog.
“Dw i’n ysgrifennu cofnodion y cleifion yn eu hiaith nhw. Pan dw i’n dweud dwyieithog, dw i’n golygu yn iaith y claf.
“Yn eich achos chi yn Gymraeg, nid yn Saesneg – dim gair yn Saesneg, os nad [ydy’r claf] eisiau Saesneg.
“Rydyn ni wedi llwyddo fis yn ôl, yn fy mhrifysgol, rydyn ni wedi newid y cod moeseg er mwyn cynnig sicrwydd a diogelwch i glinigwyr a chleifion. Mae gennym ni’r hawl, ac mae e yn ein cod moeseg, i sgrifennu cofnodion clinigol y cleifion i gyd yn y Fasgeg a dim ond yn y Fasgeg.
“Sut wnes i lwyddo i gael newid yn y cod moeseg?
“Oherwydd bod anesthetydd wedi sgrifennu yn nodiadau un o fy nghleifion, a oedd yn glaf i fi ac nid fo, yn Saesneg deirgwaith yn gofyn os oeddwn yn casáu Sbaeneg yna y dylwn i ysgrifennu’n Saesneg, o leiaf.
“Felly, fe wnes i brotestio, ei gyhuddo, aethon ni at y wasg. Dywedais i wrthyn nhw y dylen ni newid y côd moeseg yn llwyr i roi’r sicrwydd a’r gofod i’n cleifion a’n gweithwyr ysgrifennu’n rhydd yn iaith y claf, sy’n golygu Basgeg yn yr ardal yma. Felly [mae] hawl i ysgrifennu’r cofnodion cleifion hyn i gyd yn y Fasgeg, ac yn y Fasgeg yn unig.
“Mae cael perthynas dda â’r wasg yn bwysig i gael rhwydwaith, a dywedais i wrthyn nhw fy mod i’n mynd i ymprydio ac fe wnaethon nhw dderbyn.”
Defnyddio cyfieithwyr?
Yn sgil diffyg gweithwyr sy’n siarad Basgeg, mae defnyddio cyfieithwyr wedi cael eu hystyried fel dewis arall ar gyfer cynnig gofal iechyd mewn ieithoedd lleiafrifol, ond mae dadleuon am ddiffyg cywirdeb a diffyg cyfrinachedd yn codi wrth ystyried hynny.
Mewn erthygl ar y pwnc yn Minorités linguistiques et société yn 2021, mae Aitor Montes Lasarte, Jon Zarate a Xabier Arauzo yn dadlau bod yn dueddiad wedi bod i gredu bod pawb yng Ngwlad y Basg yn siarad Sbaeneg felly dydy defnyddio cyfieithwyr heb gael ei ystyried.
Ar y llaw arall, byddai siaradwyr Basgeg yn annhebygol o dderbyn y gwasanaethau cyfieithwyr, ac o bosib yn ei ystyried fel syniad “gwallgof”, meddai’r darn.
“Yng Ngwlad y Basg, beth ydyn ni’n mynnu yw meddygon a nyrsys sy’n siarad ein hiaith ond nid cyfieithwyr. Fyddech chi’n derbyn cyfieithwyr yn eich gwlad eich hun – yng Nghymru?” gofynna Aitor Montes Lasarte
“Dw i’n mynd i drio annog y bobol i weithredu. Dw i’n feddyg y bobol.”