Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r gyfraith isafswm pris uned alcohol fel “polisi Llafur a fethodd”, ar ôl canfod fod mwy o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol ers cyflwyno’r polisi.
Cafodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 ei rhoi ar waith ar Fawrth 2, 2020. Roedd yn cynnwys cyflwyno isafswm pris o 50c ar gyfer uned o alcohol.
Nod y polisi yw lleihau lefelau yfed peryglus a niweidiol, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am adolygiad.
Galw am adolygiad
Yn dilyn cyflwyno cais rhyddid gwybodaeth i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig ganfod fod nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu o 1,667 yn 2020 i 1,691 yn 2021.
Wrth gyflwyno’r polisi, roedd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n disgwyl gweld 1,281 yn llai o dderbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol, a 66 yn llai o farwolaethau bob blwyddyn.
“Mae’r data diweddaraf am effeithiau isafswm pris uned alcohol yn ategu honiadau nad yw’r polisi Llafur aflwyddiannus hwn wedi gweithio,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Pwrpas isafswm pris uned alcohol oedd arbed arian i’r trethdalwr, ond yn bwysicaf oll amddiffyn y cyhoedd rhag cam-drin sy’n gysylltiedig ag alcohol.
“Yn anffodus, mae nifer y bobol sy’n marw o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu bob blwyddyn ers cyflwyno’r polisi.
“Pan gafodd y Bil hwn ei ystyried i ddechrau gan y Senedd, pwysleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig bwysigrwydd rhoi mesurau diogelu ar waith fel dulliau monitro a chasglu data cryfach i sicrhau nad oedd yn gwthio pobol sy’n gaeth i alcohol tuag at sylweddau mwy niweidiol, rhatach nac yn cosbi’r rhai ar incwm isel.
“Mae’r nifer cynyddol o straeon am effeithiau negyddol isafswm pris uned alcohol yn profi bod Llafur yn anghywir i anwybyddu deddfau canlyniadau anfwriadol pan wnaethon nhw basio’r gyfraith hon yng Nghymru.
“Yng ngoleuni hyn, mae’n rhaid i ni nawr weld adolygiad o isafswm pris uned alcohol yn cael ei wthio ymlaen.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.