Yn wreiddiol o’r Alban, mae Alison Cairns yn byw yn Ynys Môn erbyn hyn ac mae hi’n un o’r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Symudodd Alison o bentref Killin yn Sir Perth i Gymru yn 2007, ac erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym mhentref Llanerchymedd gyda’i phartner, Siôn, a’u saith o blant.

Cymraeg yw iaith y teulu.

Mae hi’n gweithio ym myd gofal, ac yn sylweddoli pa mor werthfawr yw defnyddio’r Gymraeg wrth ddelio gyda chleifion.

Mae hi’n mwynhau gweithio gyda cheffylau a chic-focsio ac mae hi’n gneifiwr profiadol sydd wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd.

Bydd hi a Siôn yn priodi yn yr hydref.

Dim gwers ffurfiol

Dechreuodd Alison Cairns ddysgu’r Gymraeg drwy wrando ar Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch, ac mae’n hi’n siarad yn hyderus heb fod wedi cael gwers Gymraeg ffurfiol erioed.

“Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dros 14 blynedd,” meddai wrth golwg360.

“Wnes i gyfarfod Siôn, y gŵr to be, dipyn o flynyddoedd ar ôl symud i Sir Fôn a wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ar ôl cyfarfod fo.

“Dw i byth wedi cael gwers o gwbl, dim ond gwylio S4C gyda’r is-deitlau ymlaen, gwrando ar Radio Cymru, a phobol yn siarad…

“Ac wedyn, pan dw i wedi mynd i gneifio’n Seland Newydd, dw i wedi mynd efo llyfr gwaith bach plant, Dewi’r Ddraig, a jest gwneud nhw yn amser fi fy hun.”

Iaith y cartref

Cymraeg yw iaith y cartref erbyn hyn, ac mae hi’n awyddus i drosglwyddo’r Gymraeg i’w phlant.

“Siôn wnaeth enwebu fi i Ddysgwr y Flwyddyn, ac wedyn mae o wedi dweud wrtha’ i ddau neu dri diwrnod cyn i fi gael e-bost yn dweud.

“Wythnos ar ôl cael sgwrs efo’r beirniaid, dw i wedi clywed dw i wedi mynd trwy i’r ffeinal pedwar – bach o sioc!

“Dw i’n falch iawn.

“Mae’n gyflawniad i’r pedwar ohonom ni ddysgu’r iaith a medru siarad yr iaith bob dydd.

“Mae o’n bwysig i fi achos dw i’n fam i saith o blant, felly mae’n neis gallu siarad Cymraeg efo nhw bob dydd a chario’r iaith ymlaen efo nhw wedyn.”

Cwestiynu agweddau yn ei gwaith

Nid yn unig yn y cartref mae’r iaith yn bwysig i Alison Cairns chwaith.

Mae hi’n achub ar bob cyfle i siarad yr iaith yn ei gwaith fel gofalwr, ac yn cwestiynu agweddau ei chydweithwyr tuag at yr iaith.

“Dw i wedi gweithio efo lot o hen bobol ac wedi gweld y gwahaniaeth os Cymraeg ydy iaith gyntaf nhw ac wedyn maen nhw’n gorfod trio siarad Saesneg efo pobol,” meddai.

“Dw i’n gweld hynny’n anodd iddyn nhw, yn enwedig i’r hen bobol sy’n gallu ymlacio mwy wrth siarad Cymraeg achos maen nhw’n cael siarad iaith eu hunain.

“Mae’n bwysig iawn i fi fy mod i’n medru mynd mewn i dai pobol a siarad Cymraeg efo nhw.

“Dw i’n gweithio yn Ysbyty Gwynedd a diwrnod yn ôl daeth yna glaf mewn a Chymraeg oedd iaith gyntaf fo.

“Ac rydan ni’n rhoi mewn yn y cyfrifiadur pa iaith maen nhw eisiau siarad gyntaf.

“Ond wnaeth dynes ro’n i’n gweithio efo wedi dewis Saesneg, felly wnes i ofyn: ‘Pam wyt ti wedi [dewis] Saesneg? Cymraeg ydy iaith fo, a ti heb ofyn iddo fo pa iaith mae o eisiau siarad, felly pam wyt ti’n meddwl bod o jest eisiau siarad Saesneg?’

“Roedd hynny wedi effeithio fi dipyn bach.

“Dw i wedi bod yn helpu yn Ysgol Llanerchymedd amser cinio hefyd, ac wedi cael plant yn symud o Loegr, a jest wedi gweld mae hi’n bwysig i gael nhw i siarad yr iaith hefyd.

“Maen nhw’n byw mewn pentref bach ac mae’n bwysig bod nhw’n siarad iaith y gymuned.

“Mae o’n helpu chdi efo bywyd bob dydd, efo gwaith, cneifio, gwneud ffrindiau ac yn y gymuned.

“Mae o’n help ac mae o’n agor y drysau i bob dim.”

Troi at y Saesneg “ddim yn helpu”

Mae Alison Cairns yn teimlo bod gwaith i’w wneud o hyd wrth helpu dysgwyr, gan fod pobol yn dal i droi i’r Saesneg wrth siarad â hi o bryd i’w gilydd.

“Wnes i ddechrau cneifio efo Siôn blynyddoedd yn ôl ac roedd y ffermwyr yn dweud wrtha i: ‘Mae’n rhaid i chdi siarad Cymraeg’,” meddai.

“Ac wedyn, ar ôl dysgu Cymraeg, fysa nhw’n dal i siarad Saesneg efo fi.

“Ro’n i’n gofyn: ‘Pam ti’n siarad Saesneg efo fi? Dw i’n siarad Cymraeg rŵan’.

“Dydw i ddim yn cael hynny gymaint rŵan.

“Mae yna dal rhai, a dydy hynny ddim yn helpu dysgwyr.”