Daeth ymhell dros 100 o gynrychiolwyr ynghyd y penwythnos diwethaf ar gyfer cynhadledd flynyddol ac Ysgol Haf gyntaf erioed YesCymru.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng nghanolfan gynadledda MedRus Prifysgol Aberystwyth, wythnosau’n unig ar ôl rali a gorymdaith annibyniaeth gyntaf 2023 yn Abertawe.
Yn ôl y mudiad, roedd y digwyddiad yn “fwrlwm go iawn, gyda syniadau, brwdfrydedd ac ysbrydoliaeth i’w gweld ymhobman”.
Wrth sôn am y drafodaeth banel i gloi’r gynhadledd, sef ‘Hunaniaeth Newydd i Gymru Newydd’, dywedodd un o’r mynychwyr ei bod yn “anhygoel”.
“Os yw’r panelwyr hyn yn esiampl o’r arweinwyr a fydd gennym pan ddaw Cymru Rydd, yna mae ein llwyddiant yn sicr!” meddai.
“Mae wedi bod yn benwythnos gwych, gyda phopeth o areithiau ysbrydoledig gan Carrie (Harper) a Richard (Thomson, AS, SNP), i ailddarganfod Richard Price, un o’n meddylwyr Cymreig mwyaf arloesol o’r ddeunawfed ganrif, yna rhywfaint o ddadansoddi data pleidleisio hynod ddiddorol – a mwy!
“Rydw i wedi blino’n lân ond hefyd yn llawn egni gan bopeth rydw i wedi’i glywed!”
‘Cam cyntaf pwysig’
Yn ôl Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru, roedd y gynhadledd flynyddol gyntaf a’r Ysgol Haf yn “gam cyntaf pwysig” wrth symud tuag at gam nesa’r ymgyrch tros annibyniaeth i Gymru.
“Mae’n foment dyngedfennol, sy’n dangos bod yr ymgyrch wedi dod i oed a’i bod yn ddigon proffesiynol i ymestyn ei hun a gosod gwreiddiau ym mhob cymuned ar draws y genedl,” meddai.
“Rydyn ni’n barod i fynd allan yna a siarad â phawb yng Nghymru, gan helpu i roi’r hyder, y dewrder a’r uchelgais iddyn nhw i weld a deall y bydd gan Gymru annibynnol lawer mwy o botensial nag y gallwn ni byth ei chael tra’n rhwym i atgof sȃl a llipa yr hen ymerodraeth Brydeinig.”
‘Brwdfrydedd ac egni, a darganfod ei mojo’
Yn ôl Nerys Jenkins, is-gadeirydd YesCymru, roedd yn “benwythnos gwych”.
“Hyfryd oedd croesawu a chlywed gan ffrindiau a phartneriaid yn ymgyrch Annibyniaeth yr Alban, gwych gweld brwdfrydedd ac egni ein haelodau,” meddai.
“Does dim amheuaeth o gwbl fod ymgyrch Annibyniaeth Cymru wedi dod o hyd i’w mojo eleni ac yn barod i ffynnu ac ymdrechu fel y gallwn barhau i wneud cynnydd yn ein hymgyrch.
“Mae’r achos dros Annibyniaeth yn dod i’w lawn nerthl yn union wrth i’r achos dros yr Undeb chwalu yn ddarnau mȃn, yn fawr fwy na edrych yn ôl ar yr hyn a fu, heb fawr o sylwedd na pherthnasedd i realiti’r 21ain ganrif.
“Rydyn ni’n byw mewn cyfnod lle bod cenhedloedd bach yn edrych tuag allan mewn rhwydwaith rhyngwladol, mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn llwyddiannus, yn hapus, yn iach ac yn gyfoethog.
“Rydyn ni eisiau hyn i Gymru a dylech chithau hefyd!”