Mae 77% o bobol sydd wedi defnyddio’r bilsen atal cenhedlu yn dweud eu bod nhw wedi profi sgil-effeithiau, yn ôl arolwg newydd.
Er mwyn cyd-fynd â rhaglen ddogfen newydd y cyflwynydd Davina McCall, The Pill Revolution, fe wnaeth Channel 4 holi 4,000 o bobol am sut mae gwahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu wedi’u heffeithio.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae mwy a mwy o fenywod yn troi eu cefnau ar ddulliau hormonaidd o atal cenhedlu.
Wedi’i hysgogi gan ei phrofiad ei hun a’i merched gyda’r bilsen, roedd Davina McCall yn awyddus i ddechrau sgwrs ynghylch iechyd cenhedlol, ac mae’r rhaglen yn pwysleisio’r angen am ymchwil newydd a mwy o opsiynau.
Yn y 1960au, roedd y bilsen yn chwyldroadol ac yn cynnig rhyddid gwirioneddol i ferched am y tro cyntaf.
Fodd bynnag, mae’r bilsen – yn enwedig y bilsen gyfun sy’n cynnwys estrogen a phrogesteron – yn cael ei chynnig yn gyson fel ateb i broblemau iechyd eraill hefyd, megis rheoleiddio mislif neu i helpu â mislif trwm neu boenus.
‘Troi mewn i anghenfil’
Yn ôl Bethan Jenkins, sydd wedi stopio cymryd dulliau atal cenhedlu hormonaidd bellach, mae “angen i rywbeth newid yn y ffordd mae’r bilsen yn cael ei rhoi allan fel ryw fath o magical cure i bethau”.
“Dechreuais i gael mislif trwm pan oeddwn i ambyti 11, o’r amser es i at y doctor i ddweud fy mod i’n dioddef y peth cyntaf wedon nhw oedd ‘Wnawn ni roi ti ar y pill’,” meddai’r ddynes 38 oed o Aberdâr wrth golwg360.
“Mae’n troi ma’s, deng mlynedd yn ddiweddarach, bod gen i endometriosis.
“Mae cymryd y bilsen wir wedi masgio’r symptomau yna; er bod e’n stopio mislif fi, oedd e’n dod â sgil-effeithau eraill fel mood swings, magu pwysau, migranes.
“Roedd yna un bilsen oedd wedi troi fi mewn i anghenfil, roeddwn i’n gas gyda phobol, doeddwn i ddim yn fi fy hun.”
Mae miliynau o fenywod yn dod ymlaen â’r bilsen heb unrhyw fath o broblemau.
Er hynny, mae astudiaeth gafodd ei gwneud yn Nenmarc yn 2016 yn dangos bod menywod ar ddulliau atal cenhedlu hormonaidd 50% yn fwy tebygol o gael diagnosis o iselder chwe mis wedyn o gymharu â menywod oedd heb ddefnyddio’r fath ddulliau yn yr un cyfnod – gan awgrymu cysylltiad posib rhwng y ddau.
“Beth oedd yn poeni fi o edrych yn ôl oedd bod y doctor ddim yn trafod be’ all sgil-effeithiau’r bilsen fod, yr unig beth oeddwn i’n ei gael oedd ‘Bydd hwn yn gwneud mislif ti’n well’,” meddai Bethan Jenkins.
“Dw i yn credu bod rhywbeth angen newid gyda hynna.”
‘Gwell na chael clot’
Cafodd Cat Roberts, sy’n 37 oed ac yn dod o Gaernarfon, ei rhoi ar y bilsen gyfun pan oedd hi tua ugain oed hefyd, gan nad oedd ei mislif yn rheolaidd a’u bod nhw’n drwm a phoenus.
“Roedd o’n helpu lot, roeddwn i arno fo am flynyddoedd,” meddai.
“Pan oeddwn i tua 31 oed, fe wnes i ddechrau cael poenau yng ngwaelod fy nghefn, roeddwn i’n colli fy ngwynt.
“Roedd gen i glot ar fy ysgyfaint, be’ maen nhw’n alw’n pulmonary embolism, clot mwyaf tebyg wedi dechrau yn fy nghoes.
“Roeddwn i’n lwcus eu bod nhw wedi’i ddal o, a gefais i driniaeth; roeddwn i ar deneuwyr gwaed ac roeddwn i’n hollol iawn.”
Gall estrogen yn y bilsen gyfun achosi i waed geulo’n haws, ac arwain at geulad (clot) yn y goes, ysgyfaint, strôc neu drawiad ar y galon.
Mae’r risg yn isel iawn, a chan amlaf dydy’r bilsen gyfun ddim yn cael ei rhoi i bobol os ydyn nhw â risg uwch yn sgil eu hoed, ffordd o fyw, pwysau, neu hanes meddygol.
Yn 2014, fe wnaeth Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop ddweud eu bod nhw’n disgwyl gweld rhwng pump a deuddeg ceulad gwaed i bob 10,000 o fenywod sydd ar y bilsen gyfun am flwyddyn.
Bydden nhw’n disgwyl dau geulad i bob 10,000 menyw sydd ddim yn defnyddio dulliau atal cenhedlu.
“Er fy mod i ddim yn smocio, na dros fy mhwysau nag wedi bod ar awyren am hir na dim byd, a fy mod i reit iach ac yn cadw’n heini, os ti wedi cael clot rhaid i chdi ddod oddi arno fo’n syth,” meddai Cat Roberts.
“Mae yna fwy o siawns i fi ennill y Loteri nag i hynna ddigwydd, roeddwn i jyst yn ofnadwy o anlwcus.
“Fe wnaethon nhw tsiecio os oedd o’n rhywbeth genetig, ond na. Fedran nhw ddim ei brofi fo, ond mwy na thebyg achos fy mod i ar y bilsen roedd yna fwy o siawns i fi gael o.
“Rŵan dw i ddim yn cael bod ar y bilsen, dw i’n gallu bod ar y bilsen fechan ond dydy’r rheiny ddim yn gweithio i fi.
“Dw i’n gutted, achos roedd o’n helpu fi lot efo’r symptomau, felly dw i dal yn cael problemau ond mae o’n well na chael clot.”
‘Gyd oedd y GP yn weld oedd menyw dew’
I Non, sy’n 30 ac yn dod o Gaerdydd, mae’r bilsen fechan – sydd ond yn cynnwys progesteron, wedi bod yn fendith.
Ar ôl magu pwysau yn sydyn a dechrau dioddef o flinder ofnadwy, aeth at ei meddyg teulu naw gwaith mewn blwyddyn yn mynnu bod rhywbeth o’i le.
Er ei bod hi “erioed wedi bod yn fenyw denau”, roedd hi wastad yn athletaidd yn ymarfer corff bron bob dydd ac yn cleddyfa dros Gymru.
Ond gan nad oedd hi byth wedi bod yn denau, mae’n teimlo na wnaeth y meddyg teulu ei chymryd o ddifrif.
“Yn reit sydyn dyma fi’n magu pwysau, blino, pwysau rownd y canol yn enwedig,” meddai, a hithau’n awyddus iawn i dynnu sylw at y diffygion mewn gofal iechyd i ferched.
“Roedd [y doctoriaid] yn dismiss-io fi a dweud bod rhaid i fi fwyta llai ac ymarfer mwy; wnaethon nhw byth ofyn i fi be’ oeddwn i’n bwyta na faint oeddwn i’n ymarfer. Gyd oedd y GP yn weld oedd menyw dew, ac roedd e mor dehumanizing.
“Pan mae rhywun proffesiynol yn dweud rhywbeth wrthych chi dro ar ôl tro, rydych chi’n dechrau eu credu nhw.
“Roeddwn i’n dechrau credu fy mod i jyst yn farus a ddim yn ymarfer corff digon.”
Pan wnaeth hi feichiogi gyda’i mab, fe wnaeth ei symptomau ddiflannu “dros nos”, a chollodd hanner stôn heb drio.
Aeth at gynaecolegydd, a dywedodd wrthi am ddechrau cymryd y bilsen fechan ar ôl i’w mab stopio bwydo o’r fron.
“Dw i wedi mynd arno fe, a dim symptomau rhagor, dim poenau aruthrol yn fy stumog, mae fy mhwysau lawr i 11 stôn a hanner, mae gen i fwy o egni, dw i wedi ymuno â’r clwb rhedeg, dw i’n nofio,” meddai.
“Be’ sy’n ofni fi o ran menywod eraill, taswn i heb wneud rhywbeth mor eithafol â beichiogi – nid er mwyn ffeindio allan be oedd yn bod gyda fi! – dw i’n sicr y byswn i’n dewach a mwy blinedig nag erioed gyda GPs yn parhau i ddweud ‘Wrth gwrs, ti’n dew’.
“Roedd yn amlwg bod gen i ryw fath o imbalance hormonaidd.”
‘Diogel ac effeithiol i’r rhan fwyaf’
Wrth ymateb i raglen Davina McCall, dywed Coleg Brenhinol y Gynaecolegwyr a’r Obstetryddion fod dulliau atal cenhedlu’n rhan hanfodol o hawliau rhywiol a chenhedlol menywod.
“Mae cael mynediad amserol at bob dull atal cenhedlu, ynghyd ag addysg a gwybodaeth o ansawdd uchel, yn caniatáu i fenywod rheoli pryd ac os ydyn nhw eisiau plant,” meddai Dr Geeta Kumar, Dirprwy Lywydd y Coleg.
“Gall dulliau hormonaidd effeithio menywod yn wahanol, ac efallai bydd rhai menywod yn profi sgileffaith gan un math a dim gan un arall, fel cur pen neu newid mewn hwyliau.
“I’r rhan fwyaf, mae’r bilsen atal cenhedlu yn ddiogel ac effeithiol, ac mae’r buddion yn fwy na’r peryglon.
“Byddan ni’n annog unrhyw un sydd gan bryderon am newidiadau i’w hwyliau y maen nhw’n amau a allai fod yn gysylltiedig â’u dull atal cenhedlu i siarad â’u gweithwyr iechyd.
“Mae’n hanfodol bod menywod sy’n profi sgileffeithiau gyda dulliau hormonaidd yn teimlo bod gweithwyr iechyd yn gwrando arnyn nhw, a’u bod nhw’n gallu cael sgyrsiau ystyriol am ddulliau gwahanol.
“Rhaid buddsoddi mewn ymchwil i ddeall sgileffeithiau posib yn well hefyd, ac archwilio ffyrdd i leihau nifer y menywod sy’n eu dioddef nhw.”