Dim ond yr enw Cymraeg ‘Marathon Eryri’ fydd yn cael ei ddefnyddio o hyn ymlaen, yn ôl trefnwyr y ras.

Daw hyn ar ôl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri benderfynu fis Tachwedd y llynedd y bydden nhw’n arddel yr enw Cymraeg yn unig ar yr Wyddfa.

Mae Bannau Brycheiniog wedi gwneud penderfyniad tebyg, gan gefnu ar ‘Brecon Beacons’ yn yr enw swyddogol.

Yn ôl trefnwyr Marathon Eryri, cawson nhw eu hysbrydoli gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol wrth wneud y penderfyniad.

“Yr un ras anhygoel, yr un golygfeydd gwych, yr un cyfranogwyr anhygoel, enw dilys newydd,” meddai eu datganiad.

Ceidwadwyr yn gwrthod ymuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Elgan Hearn (Gohebydd Democratiaeth Leol)

Daw’r penderfyniad ar ôl i’r awdurdod benderfynu arddel yr enw Cymraeg
Bannau Brycheiniog

“Trahauster yn y cnawd”: Rishi Sunak dan y lach tros Fannau Brycheiniog

Alun Rhys Chivers

Dywed Prif Weinidog y Deyrnas Unedig y bydd yn parhau i ddefnyddio’r enw Saesneg ‘Brecon Beacons’ ond ei fod yn “gefnogwr mawr” o’r Gymraeg
Bannau Brycheiniog yn yr haul

Hanes cyfoethog Bannau Brycheiniog

Rebecca Thomas

Mae Rebecca Thomas yn gweithio fel awdur preswyl Cymraeg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 2022-23

Bannau Brycheiniog: Sky News yn gofyn, ‘Allwch chi ynganu enw newydd y parc?’

Fideo yn gofyn i bobol leol a thwristiaid sut i ynganu’r enw Cymraeg

Bannau Brycheiniog: Defnyddio’r enw Cymraeg yn unig yn “rhoi statws i’r iaith”

Cadi Dafydd

“I bobol o’r tu allan i Gymru mae e’n symbol clir bod gyda ni iaith fyw yma,” meddai Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wrth groesawu’r cam
Bannau Brycheiniog

Bannau Brycheiniog am ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig yn y dyfodol

Daw’r newid ar ben-blwydd y Parc Cenedlaethol yn 66 oed heddiw (dydd Llun, Ebrill 17)