Mae Nigel Morris, sy’n berchen ar adeilad Eglwys Llan Ffestiniog gyda’i ferch Ainsley Cohen, wedi dod yn Gyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Abertawe ac wedi buddsoddi swm o arian ar unwaith.

Mae’n gyd-sylfaenydd Capital One Financial Services, cwmni ariannol sydd wedi creu strategaeth wnaeth weddnewid y diwydiant benthyca cwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau ac mewn sawl gwlad arall yn y byd.

Mae’n Rheolwr-Bartner ar gwmni QED Investors, cwmni arall y gwnaeth ei sefydlu.

Mae’r Gynghrair Bêl-droed wedi cymeradwyo’i fuddsoddiad.

“Dw i’n falch iawn fod Nigel gyda ni bellach, ac mae pawb wedi cyffroi ynghylch dyfodol clwb sydd â chymaint o botensial,” meddai’r cadeirydd Andy Coleman.

“Mae gan Nigel rinweddau gwych a chyfoeth o allu busnes fydd yn amhrisiadwy i’r clwb wrth symud ynmlaen wrth i ni gydweithio i sicrhau llwyddiant ar y cae ac oddi arno.

“Byddwn ni’n parhau i sicrhau bod y clwb yn aros yn sefydlog yn ariannol ac mewn sefyllfa ar gyfer llwyddiant tymor hir, ac mae’r buddsoddiad hwn yn helpu i wella sefyllfa ariannol y clwb.

“Dw i wedi siarad â Nigel ar sawl achlysur, ac rydyn ni wedi’n halinio yn ein gweledigaeth o ran ymrwymo ar y cyd i helpu i sicrhau llwyddiant i’r clwb pêl-droed.”