Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi tri aelod newydd o’u Bwrdd, gan gynnwys cadeirydd.

Daw hyn yn dilyn cyfarfod o randdeiliaid y Gymdeithas heddiw (dydd Llun, Mehefin 12).

Y tri sydd wedi’u penodi yw’r cadeirydd Alys Carlton, Sameer Rahman a Dr Carol Bell.

Dywed y cyn-gadeirydd Steve Dalton ei fod yn “eithriadol o falch” o’i saith mlynedd ar y Bwrdd a’i bedair blynedd yn y gadair.

Dywed fod y Bwrdd wedi wynebu “nifer o newidiadau sylweddol wrth foderneiddio’r strwythur llywodraethiant” er mwyn “esblygu ar y cae ac oddi arno”.

Ymhlith ei brif gampau, meddai, mae tyfu’r gêm ar lawr gwlad gan dorri sawl record, cynyddu diddordeb menywod a merched yn y gamp ac ennill Sefydliad Chwaraeon y Flwyddyn yn y Deyrnas Unedig “fel cydnabyddiaeth o bopeth sydd wedi cael ei gyflawni”.

Ychwanega y bydd y penodiadau newydd yn sicrhau amrywiaeth ar y Bwrdd ar gyfer “dyfodol bywiog”.

‘Tyfu ac esblygu’

Yn ôl Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, maen nhw’n “tyfu ac esblygu” ledled Cymru a bydd y penodiadau’n sicrhau eu bod nhw’n “parhau ar ein taith i fod yn sefydliad chwaraeon o safon fyd-eang”.

“Mae amrywiaeth barn, gwytnwch yn ein penderfyniadau a’r ystod eang o sgiliau perthnasol yn hanfodol wrth gyflwyno ‘Ein Cymru’ – ein strategaeth bêl-droed ar gyfer Cymru.”

Dywed fod Steve Dalton “wedi llywio’r sefydliad drwy newidiadau llywodraethiant arwyddocaol fydd o fudd i bêl-droed yng Nghymru am flynyddoedd i ddod”, ac fe ddiolchodd i aelod arall o’r Bwrdd, Tim Naylor.

Wrth gloi ei sylwadau, dywed y bydd y penodiadau’n “gam arall ymlaen i bêl-droed Cymru wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol disglair iawn”.