Ar ôl hanner cyntaf cryf yn y gemau ugain pelawd, mae sylw tîm criced Morgannwg yn troi’n ôl at y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw deithio i Durham (dydd Sul, Mehefin 11).

Mae nifer o chwaraewyr blaenllaw yn absennol, gan gynnwys y capten David Lloyd, Eddie Byrom a Michael Neser.

Bydd Colin Ingram yn chwarae gêm pedwar diwrnod am y tro cyntaf ers y gêm gyntaf, wrth i Marnus Labuschagne baratoi ar gyfer Cyfres y Lludw gydag Awstralia.

Un arall sydd yn y garfan am y tro cyntaf eleni yw’r wicedwr ifanc o Drecelyn, Alex Horton, tra bod Prem Sisodiya, y troellwr llaw chwith, yn gobeithio chwarae’r fformat hir am y tro cyntaf ers 2018.

Durham sydd ar frig yr ail adran, tra bod Morgannwg yn bedwerydd.

Death y gêm rhwng y ddwy sir yng Nghaerdydd eleni i ben yn gyfartal, a dydy Morgannwg ddim wedi ennill ar gae Riverside yn Chester-le-Street ers 2004.

Tîm Durham: A Lees, M Jones, S Borthwick (capten), D Bedingham, O Robinson, G Clark, B de Leede, B Raine, A Patel, S McAlindon, C Miles

Tîm Morgannwg: A Salter, Zain-ul-Hassan, C Ingram, S Northeast, K Carlson (capten), C Cooke, B Root, A Gorvin, T van der Gugten, J Harris, P Sisodiya

Sgorfwrdd