Bydd timau criced dynion a menywod Lloegr yn chwarae o leiaf 17 o gemau yng Nghaerdydd rhwng 2025 a 2031.

Bydd o leiaf ddeuddeg o gemau’r dynion ym mhrifddinas Cymru, ac o leiaf bump o gemau’r merched.

Dywed Clwb Criced Morgannwg eu bod nhw wrth eu boddau o gael cynnal y gemau.

Ymhlith yr uchafbwyntiau fydd gornest 50 pelawd rhwng Lloegr ac India yn 2026 a gêm ugain pelawd yn 2028, a gornest ugain pelawd rhwng Lloegr ac Awstralia yn 2028.

Dywed Morgannwg eu bod nhw’n “edrych ymlaen at roi croeso cynnes Cymreig i bob cenedl”, ac hefyd at gael cyfrannu at dwf gêm y merched “ledled Cymru a Lloegr”.

‘Croesawu rhai o dimau gorau’r byd i Gymru’

“Rydyn ni bob amser wrth ein boddau o gael cynnal gemau rhyngwladol yma yng Nghaerdydd, ac rydyn ni wrth ein boddau o gael croesawu rhai o dimau gorau’r byd i Gymru,” meddai Hugh Morris, Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg.

“Mae gennym ni gemau anhygoel i edrych ymlaen atyn nhw eisoes, gydag India ac Awstralia’n dychwelyd i Erddi Sophia, ac rydyn ni wedi’n cyffroi’n fawr iawn o gael croesawu merched Lloegr i Erddi Sophia am o leiaf bum gêm yn ystod y cyfnod.

“Mae’n adeg anhygoel i fod yn gefnogwr criced, ac o gael y gemau gwych hyn yng Nghaerdydd, dw i’n siŵr y bydd y cariad a’r angerdd at y gêm ond yn parhau i dyfu yng Nghymru, ac allwn ni ddim aros i ddweud ‘Croeso’ wrth yr holl dimau sy’n ymweld â Gerddi Sophia dros y saith mlynedd nesaf.”