Mae John Hollins, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi marw’n 76 oed.

Roedd e wrth y llyw ar gae’r Vetch rhwng 1998 a 2001, gan ennill y Drydedd Adran yn 1999-2000.

Ond cafodd ei ddiswyddo ar ôl iddyn nhw fethu ag aros yn yr Ail Adran y tymor canlynol.

Fe wnaeth e gais i ddychwelyd i’r clwb yn rheolwr ar ôl ymadawiad Kenny Jackett yn 2007, pan gafodd Roberto Martinez ei benodi gan ddechrau ar oes aur i’r Elyrch.

Chelsea a chlybiau eraill

Mae’n cael ei gysylltu’n bennaf â Chelsea, oedd wedi cyhoeddi’r newyddion am ei farwolaeth.

Chwaraeodd e bron i 600 o weithiau i’r clwb, gan sgorio 64 gôl dros ddau gyfnod rhwng 1963 a 1984.

Cafodd ei benodi’n rheolwr yn Stamford Bridge yn 1985, gan aros yno am dair blynedd.

Ymhlith ei glybiau eraill fel chwaraewr roedd QPR, Arsenal, a Cobh Ramblers yn Iwerddon.

Bu’n rheolwr dros dro ar QPR ar ôl gadael Chelsea, ac ar ôl gadael Abertawe yn 2001 fe fu’n rheoli Rochdal, Stockport (dros dro), Stockport Tiger Star, Crawley a Weymouth.

Mae ei fab Chris Hollins yn gyflwynydd chwaraeon, a bu’n cyflwyno’r chwaraeon ar raglen frecwast y BBC am rai blynyddoedd.

‘Jac Unwaith, Jac am Byth’

Dywed Clwb Pêl-droed Abertawe eu bod nhw’n “drist o glywed am farwolaeth ein cyn-reolwr John Hollins MBE”.

“Mae ein meddyliau gyda ffrindiau a theulu John ar yr adeg drist hon,” meddai’r clwb.

“Jac Unwaith, Jac am Byth.”

Roedd seiliau cadarn i’w dîm yn Abertawe, ynghyd ag amddiffyn cryf wrth iddyn nhw ildio dim ond 30 o goliau mewn 46 o gemau yn ystod y tymor pan enillon nhw’r Drydedd Adran, wrth iddyn nhw gadw 22 llechen lân hefyd.

Cyrhaeddodd yr Elyrch y gemau ail gyfle yn 1998, ac fe wnaethon nhw guro West Ham yng Nghwpan FA Lloegr yn 1999 – y tro cyntaf i dîm mewn adran is guro tîm o’r Uwch Gynghrair allan o’r gwpan.

“Roedd John yn ffigwr poblogaidd ac annwyl iawn, ac mae pawb yn Abertawe’n anfon eu cymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau John ar yr adeg drist hon,” meddai’r clwb.

“Bydd y clwb yn nodi colli John mewn gêm gartref ar ddechrau tymor 2023-24.”

Teyrngedau eraill

Ymhlith yr unigolion sydd wedi talu teyrnged i John Hollins mae John Hartson, cyn-ymosodwr Cymru.

“Ges i’r pleser o gwrdd â John sawl gwaith, yn bennaf pan oedd e’n rheolwr Abertawe yn y ’90au hwyr, boi gwych,” meddai ar Twitter.

“Meddyliau gyda’r teulu Hollins.”

Dywed y newyddiadurwr Guto Llewelyn mai John Hollins oedd y rheolwr pan ddechreuodd wylio Abertawe.

“Fe wnes i ddal y bug o wylio’i dîm enillodd ddyrchafiad yn 99/00.

“Roedd yn ŵr bonheddig iawn ac yn ddyn roddodd i ni gefnogwyr Abertawe lawer o atgofion hapus.”