Mae Chris Cooke, wicedwr tîm criced Morgannwg, yn dweud bod rhaid iddyn nhw ennill mwy o gemau, ar ôl iddyn nhw gael gêm gyfartal arall oddi cartref yn Durham yn Ail Adran y Bencampwriaeth.

Tarodd Cooke ganred di-guro i achub yr ornest ar y diwrnod olaf yn Stadiwm Riverside, wrth i Forgannwg barhau’n ddi-guro yn y gystadleuaeth pedwar diwrnod y tymor hwn.

Sgoriodd Cooke 134, ei ail ganred y tymor hwn, wrth iddo gael ei gefnogi gan Timm van der Gugten, oedd wedi taro seithfed hanner canred ei yrfa fel rhan o bartneriaeth o 153.

Roedd Morgannwg yn 273 am saith o fewn dim o dro, ond doedd dim cefnogaeth yn y llain i fowlwyr Durham yn y pen draw.

Mae Durham yn aros ar frig y tabl hanner ffordd trwy’r gystadleuaeth.

Manylion y dydd

Collodd y capten Kiran Carlson ei wiced oddi ar bumed pelen y dydd, wrth i Bas de Leede waredu’r capten am 35 wrth iddo roi daliad i Craig Miles.

Erbyn hynny, roedd Morgannwg wedi llithro i 159 am bump ac yn wynebu’r posibilrwydd o golli o fatiad a mwy.

Roedd y sir Gymreig yn dal ar ei hôl hi o 81 bryd hynny.

Adeiladodd Cooke a Billy Root bartneriaeth o 72 cyn i Root ergydio’n wyllt oddi ar fowlio Ben Raine wrth i Forgannwg golli eu chweched wiced.

Cyrhaeddodd Cooke ei hanner canred ar ôl cinio gyda chyfres o ergydion i’r ffin, ac er i Andy Gorvin gael ei fowlio gan Miles, ymunodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten â Cooke wrth y llain a batio’n amddiffynnol a chadarn.

Daeth canred Cooke oddi ar 168 o belenni yn y pen draw, wrth i’r ornest lithro o afael Durham.

Cyrhaeddodd Timm van der Gugten ei hanner canred yntau ar lain fflat cyn i’r ornest ddod i ben yn gyfartal.

‘Cymeriad’

“Roedd hi’n braf cyfrannu tuag at achub y gêm, ac mae aros yn ddi-guro yn rywbeth na ddylen ni ei wfftio, fwy na thebyg,” meddai Chris Cooke.

“Ond bydden ni’n hoffi bod ar ben arall y gemau hyn.

“Mae angen i ni fod yn ennill mwy o’r gemau hyn.

“Mae’n wych ein bod ni wedi achub y gêm, ac mae bod yn ddi-guro’n nodwedd sy’n dda ei gael yn y tîm.

“Rydyn ni wedi dangos cryn gymeriad dros y gemau diwethaf, ond mae angen i ni ddechrau eu hennill nhw.

“Mae Timm van der Gugten yn [fatiwr] rhif naw da iawn.

“Mae e’n chwaraewr cadarn ac rydyn ni fel pe baen ni bob amser yn batio’n eithaf da gyda’n gilydd.”