Mae Liam Williams yn cefnu ar rygbi rhanbarthol yng Nghymru er mwyn symud i Japan.

Mae gan y cefnwr 32 oed flwyddyn yn weddill o’i gytundeb gyda Rygbi Caerdydd, ond mae’r rhanbarth yn awyddus i dorri costau ar gyfer y tymor nesaf.

Fydd hyn ddim yn effeithio ar ei obeithion o barhau i chwarae dros Gymru, gan ei fod e wedi ennill 84 o gapiau ac mae disgwyl iddo fe chwarae rhan yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc yn ddiweddarach eleni.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd i ba glwb yn Japan fydd e’n chwarae, ond y disgwyl yw y bydd yn symud yno ar ôl y twrnament ar ôl pasio prawf meddygol arbennig oherwydd yr holl anafiadau mae e wedi’u cael yn ystod ei yrfa.

Mae Liam Williams yn ymuno â Tomas Francis (Provence), Joe Hawkins (Caerwysg), Cory Hill (Japan), Dillon Lewis (Harlequins), Ross Moriarty (Brive), Will Rowlands (Racing 92) a Rhys Webb (Biarritz) ar restr hir o chwaraewyr sydd yn gadael Cymru i chwarae eu rygbi domestig y tymor nesaf.

Ac mae ansicrwydd ar hyn o bryd ynghylch dyfodol Gareth Anscombe, Leigh Halfpenny a Rhys Patchell, sydd i gyd wedi cael eu rhyddhau gan eu rhanbarthau.