• Mae darnau o’r stori hon wedi’u haddasu i bwysleisio na chafodd yr enw Brecon Beacons ei “newid” i’r enw Bannau Brycheiniog

Fydd yr un o gynghorwyr Ceidwadol Cyngor Sir Powys yn ymuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, er bod hawl ganddyn nhw gael un aelod yn ôl rheolau cydbwysedd gwleidyddol.

Yn ystod cyfarfod Cyngor Sir Powys ddoe (dydd Iau, Mai 18), roedd sêl bendith i enwebiadau’r grwpiau ar gyfer cynghorwyr i dderbyn rôl ar amryw o bwyllgorau, ac i gynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol.

Un o’r cyrff allanol hyn yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae gan Bowys y gynrychiolaeth fwyaf ar yr awdurdod, sydd ar y cyfan o fewn y sir.

Mae rhannau o’r parc yn mynd i mewn i sawl ardal cyngor arall yn y de a’r gorllewin.

O ganlyniad i hyn, mae gan Bowys yr hawl i gael chwe chynghorydd ar yr awdurdod, gydag un yr un o Flaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Caiff chwe aelod arall eu dewis gan Lywodraeth Cymru fel bod 18 aelod o’r parc cenedlaethol.

Cefndir

Ymddiswyddodd Iain McIntosh, cynrychiolydd y Grŵp Ceidwadol ar Fannau Brycheiniog, yn gynharach y mis hwn o ganlyniad i ailfrandio a honiadau o ragfarn wleidyddol asgell chwith.

Darllenodd Clive Pinney, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, y rhestr o’r rhai sydd wedi’u penodi i’r awdurdod, gan dynnu sylw at y ffaith fod un rôl i’w llenwi o hyd.

“Fe fydd penodiad i’r rôl gan y Ceidwadwyr maes o law,” meddai.

Ond dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, arweinydd y Grŵp Ceidwadol, na fydd “neb yn cael ei benodi i’r parc cenedlaethol”.

‘Fideo ofnadwy’

“Rydyn ni’n siomedig iawn ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am ddweud wrth bobol leol sut i redeg eu busnesau, a hefyd y fideo ofnadwy gafodd ei gynhyrchu ychydig wythnosau yn ôl.”

Y “fideo ofnadwy” roedd y Cynghorydd Aled Davies yn cyfeirio ato oedd yr un ym mis Ebrill pan ddaeth y cyhoeddiad ynghylch yr enw.

Yn y clip ffilm, mae’r actor Michael Sheen yn egluro’r defnydd o’r enw Cymraeg Bannau Brycheiniog.

“Ar ben hynny, dydy cydbwysedd gwleidyddol yr awdurdod ddim yn iawn, dw i’n ofni bod angen datrys hyn yn gyflym iawn,” meddai’r Cynghorydd Aled Davies.

Fe wnaeth y Cynghorydd Rhyddfrydol Gareth Ratcliffe, cyn-gadeirydd yr awdurdod parc cenedlaethol a’r is-gadeirydd presennol, ymateb i’r feirniadaeth.

“Mae’r parc cenedlaethol yn wleidyddol gytbwys drwy’r awdurdod hwn a chynghorau eraill, sydd wedi’i ymgorffori’n statudol,” meddai.

“Mae’r sylwadau nad yw’n wleidyddol gytbwys yn anghywir.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Baynham, cadeirydd y Cyngor, y byddai’n nodi’r sylwadau heb “fynd i ddadlau” ar y mater.

Y pum cynghorydd fydd yn cynrychioli Powys ym Mannau Brycheiniog yw:

Gareth Ratcliffe (Democratiaid Rhyddfrydol)

William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol)

Edwin Roderick (Grŵp Annibynnol)

Ed Jones (Annibynnol dros Bowys)

Huw Williams (Llafur)