Mae Llŷr Gruffydd, arweinydd dros dro Plaid Cymru, wedi galw am sicrwydd gan Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, y byddai’n datganoli llu o bwerau ychwanegol i Gymru pe bai’n dod i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Daw’r llythyr ar drothwy rali annibyniaeth i Gymru yn Abertawe fory (dydd Sadwrn, Mai 20).

Yn ôl Llŷr Gruffydd, mae Llafur “yn hanesyddol wedi methu” adlewyrchu yn eu safbwyntiau yr awydd cynyddol dros “ragor o bwerau” i Gymru.

Ond mae bellach yn galw am sicrwydd tros ddatganoli’r economi, darlledu, ynni, lles, cyfiawnder a thrafnidiaeth i’r Senedd er mwyn i Gymru “gryfhau ei heconomi ac amddiffyn ei gwasanaethau cyhoeddus”.

‘Cofiwch am Gymru’

“Wrth i’r ddadl ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru ddatblygu, bydd miloedd o bobol yn cyfarfod yn Abertawe i ddangos eu cefnogaeth i hunanbenderfyniad, llawer ohonynt yn aelodau o’ch plaid,” meddai Llŷr Gruffydd yn ei lythyr.

“Er bod mwy o bwerau yn ewyllys sefydlog etholwyr Cymru, ac annibyniaeth wedi symud o’r ymylon i’r brif ffrwd, mae’n destun rhwystredigaeth ddofn fod Plaid Lafur Prydain yn hanesyddol wedi methu â chadw i fyny â’r awydd cynyddol hwn i’r Senedd â phwerau dros feysydd allweddol.

“Mae’r dymuniadau yn cael eu clywed gan rai o’ch cydweithwyr Llafur yng Nghymru sydd wedi siarad yn ddiweddar o blaid symiau canlyniadol HS2 Barnett, datganoli cyfiawnder, a datganoli Ystad y Goron.

“Dros y misoedd nesaf, bydd pob plaid yn datblygu eu rhaglen lywodraethu cyn Etholiad San Steffan y flwyddyn nesaf.

“Fy ymbil i chi yw: cofiwch am Gymru.

“Trwy ymuno â Phlaid Cymru i addo rhoi mwy o bwerau i Senedd Cymru dros yr economi, darlledu, ynni, lles, cyfiawnder, a thrafnidiaeth, byddech yn sicrhau bod gan ein cenedl yr arfau sydd eu hangen arni i gryfhau ei heconomi ac amddiffyn ei gwasanaethau cyhoeddus.

“Rwy’n credu’n gryf bod dweud dim byd nawr a diffyg gweithredu yn ddiweddarach yn agor y drws i’r rhai sydd am wreiddio statws ymylol Cymru o fewn system San Steffan.”