Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd yn dangos yr angen am Fil Addysg Gymraeg sy’n rhoi’r iaith i bawb.

Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar Bapur Gwyn Bil Addysg Gymraeg ar hyn o bryd.

Daw sylwadau Cymdeithas yr Iaith wrth iddyn nhw ymateb i adroddiad gan y Pwyllgor, Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn y Senedd ar y fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

‘Addysg Gymraeg i bob plentyn’

“Mae’r adroddiad yn nodi bod angen buddsoddi a chynllunio er mwyn cyrraedd targedau heriol, ac yn argymell sawl cam ymlaen sydd yn ategu nifer o alwadau’r Gymdeithas,” meddai Mabli Siriol Jones, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Ond mae’n glir bod angen Ddeddf Addysg Gymraeg fydd yn sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn.

“Rydyn ni’n cytuno gyda’r pwyllgor nad yw trefn y Cynlluniau Strategol y Gymraeg yn gweithio, nid eu gwella sydd ei angen er hynny, ond cael gwared arnynt a rhoi targedau statudol i bob awdurdod lleol i gynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn addysg Gymraeg.

“Rydyn ni’n cytuno hefyd bod angen cynyddu nifer y staff addysg sy’n gallu siarad Cymraeg, mae argymhellion cryf fel cynllun trochi ar gyfer athrawon ond mae angen i’r Gymraeg fod yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon, a thargedau statudol yn y Bil i gynyddu’r gyfran o’r gweithlu sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.”

‘Trawsnewid y system’

Yn ôl Mabli Siriol Jones, mae’r Bil Addysg Gymraeg yn rhoi cyfle i “drawsnewid y system” yn hytrach na “gwneud mân newidiadau”.

Dywed y bydd y Gymdeithas yn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, gan alw am Ddeddf Addysg fydd yn:

  • gosod nod fod pob ysgol yn mynd ar daith at fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg erbyn 2050
  • yn creu un continwwm dysgu ac asesu Cymraeg
  • yn creu fframwaith cenedlaethol â thargedau statudol i bob awdurdod lleol i gyrraedd y nod