Drwy gydol yr wythnos hon, mae golwg360 wedi bod yn rhoi sylw i rai o’r busnesau ac elusennau sydd wedi ymrwymo i’r Cynnig Cymraeg.

Fe welwch chi ddarnau yn yr adran Safbwynt gan Xplore!, Ramblers Cymru, Banc Bwyd Arfon, ac Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg.

Ond…

Beth yw Wythnos y Cynnig Cymraeg?

Mae Wythnos y Cynnig Cymraeg (Mai 15-19) yn dod i ben heddiw.

Mae’r wythnos yn gyfle i ddathlu busnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg, drwy gynnig gwasanaethau yn Gymraeg i’r cyhoedd.

Beth yw hanfod y Cynnig Cymraeg?

Dylai fod gan siaradwyr a siaradwyr newydd y cyfle i dderbyn pob math o wasanaethau yn eu mamiaith, ond er mwyn byw bywyd Cymraeg mae’n rhaid gwybod pa wasanaethau sydd ar gael yn yr iaith.

 

Beth sydd wedi bod yn digwydd yn ystod Wythnos y Cynnig Cymraeg?

Fe fu’r wythnos yn ddathliad o lwyddiant sefydliadau sydd eisoes wedi derbyn y Cynnig Cymraeg a’r rhai sy’n gweithio tuag ato. Fe fu’n gyfle hefyd i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael, ac i annog y cyhoedd i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn. Y gobaith yw gweld mwy o fusnesau ac elusennau’n defnyddio’r Gymraeg ac yn derbyn cydnabyddiaeth trwy’r Cynnig Cymraeg.