Gall cydweithio a meithrin agwedd berthynol helpu i gefnogi ein hiechyd meddwl, yn ôl Rheolwr Prosiect gyda’r Sefydliad Iechyd Meddwl.

Daw sylwadau Heather Lewis ar ddiwedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a’i thema eleni yw pryder.

Gyda Chymru’n gyfuniad o gymunedau, gall cydweithio fel cymdeithas sicrhau ein bod yn cefnogi ein gilydd i oresgyn problemau a heriau iechyd meddwl.

Yn ôl Heather Lewis, mae pryder yn gyffredin iawn, ac amrywiol yw’r rhesymau a’r triniaethau ar gyfer y cyflwr, ond mae cryn obaith o wella o’r salwch yn y pen draw.

Cafodd 1,000 o oedolion yng Nghymru eu holi fel rhan o arolwg gan Opinium ar ran y Sefydliad Iechyd Meddwl, ac mae’n datgelu bod:

  • 73% yn teimlo’n bryderus dros y bythefnos ddiwethaf – 23% ohonyn nhw’r rhan fwyaf o’r amser neu drwy’r amser
  • 6% wedi profi pryder dros y bythefnos ddiwethaf oedd wedi ymyrryd â’u bywydau bob dydd
  • 36% o’r rhai fu’n teimlo’n bryderus yn poeni am dalu biliau
  • 2% yn teimlo’n bryderus i’r fath raddau nes ei fod yn eu hatal rhag gwneud yr hyn roedden nhw’n dymuno neu angen ei wneud – naill ai drwy gydol y cyfnod neu ar adegau
  • 45% â theimladau o bryder wedi cadw’n dawel
  • 31% yn teimlo nad ydyn nhw’n ymdopi’n dda â’u pryder

Dywed Heather Lewis fod ychydig o bryder yn ddigon cyffredin, ond heb ofal gall y symptomau ddatblygu i fod yn ddifrifol.

‘Iechyd meddwl yr un mor bwysig â iechyd corfforol’

Er bod iechyd meddwl yn bwysig drwy gydol y flwyddyn, mae cael wythnos gyfan i neilltuo amser a lle ar gyfer iechyd meddwl yn bwysig.

Oherwydd y pandemig, mae pryder wedi cynyddu ac mae hi’r un mor bwysig gofalu am iechyd meddwl â iechyd corfforol, yn ôl Heather Lewis.

“Mae’n bwysig cael wythnos iechyd meddwl, oherwydd mae’n gyfle i wneud amser a lle i fyfyrio a chael gwybod am bobol, a’n galluogi i wybod fod iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n bwysig drwy gydol y flwyddyn, ond mae’n debyg bod cael amser lle gall pobol stopio yn bwysig.

“Mae’n wythnos, nid yn ddiwrnod yn unig, sy’n golygu ei fod ychydig yn llai o bwysau.

“Mae yna ychydig mwy o gyfle i wneud pethau ar gyfer pobol o’r un oedran, cyfnod bywyd a’u hadnoddau.

“Dewiswyd pryder oherwydd dyma un o’r cyflyrau iechyd meddwl mwyaf cyffredin.

“Yn gorfforol, roedd y pandemig wedi cael effaith wirioneddol ar bobol.

“Gwyddom fod pryder wedi bod yn un o’r pethau hynny sydd wedi cynyddu ychydig i bob oed a chyfnod bywyd.”

Cryn obaith

Yn ôl Heather Lewis mae cryn obaith i’r bobol hynny sy’n dioddef o bryder gael eu trin â dulliau holistaidd.

“Gallwn wella o bryder,” meddai.

“Mae’n emosiwn cyffredin y bydd pob un ohonom yn ei brofi ar ryw adeg yn ein bywydau.

“Fodd bynnag, mae gorbryder yn emosiwn normal ac fel arfer dros dro, ac mae llawer y gallwn ei wneud i reoli teimladau pryderus.

“I rai pobol, gall teimladau o bryder barhau ar lefelau amrywiol am amser hir, ac weithiau gallan nhw fynd allan o reolaeth.

“Cofiwch, mae’n bwysig cael cymorth proffesiynol os yw pryder yn effeithio’n negyddol ar eich bywyd o ddydd i ddydd.

“Mae angen annog pobol i fod yn agored ac yn onest, ac i gefnogi ein gilydd.

“Gall triniaeth fod yn wahanol iawn i wahanol bobol.

“Mae’n dda mynd at y meddyg teulu i gael y driniaeth gywir.

“Mae yna bethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gallwn eu gwneud i helpu i atal llawer o bryder – pethau fel bod allan ym myd natur, gwneud ymarfer corff ar lefel briodol i chi’ch hun a’ch gallu, bod yn gysylltiedig â phobol yn gwneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau, a gallu myfyrio ar eich meddyliau a siarad â phobol am sut rydych chi’n teimlo.

“Gall yr holl bethau hynny helpu.

“Mae triniaethau meddygol mwy arbenigol y gall meddygon teulu eu cynghori.

“Gallai hynny fod yn therapi i fynd at wraidd y pryder hwnnw a helpu gyda’n hymennydd a’n proses feddwl.

“Weithiau gallai meddygon teulu gyfeirio pobol a’u helpu i ystyried a yw meddyginiaeth yn briodol.”

Symptomau pryder

Gydag ychydig o bryder yn hanfodol i’r ddynol ryw oroesi, mae’r broblem yn dod pan fo pryder yn troi’n orbryder, ac mae’r symptomau’n amrywio.

“Mae teimlad pryderus yn ymateb naturiol yn ein corff,” meddai Heather Lewis.

“Mae angen inni gael ein rheoleiddio a’n cadw’n ddiogel.

“Os ydym yn mynd i groesi’r ffordd, gall achosi perygl inni ac rydym angen bod yn ymwybodol.

“Gall gorbryder, pan ddaw’n rhy fawr i ni ei reoli, ddod yn llethol ac effeithio arnom mewn ffordd negyddol.

“Gall gyfyngu ar yr hyn a wnawn.

“Mae angen inni gymryd sylw ohono.

“Gall hynny deimlo’n wahanol i wahanol bobl.

“Gall fod yn gledrau chwyslyd a theimlo braidd yn sâl, ychydig yn nerfus, i bobol yn cael trafferth cysgu a chur pen, meddyliau llethol, ac efallai y bydd ganddyn nhw byliau o banig hefyd.

“Mae’n wahanol iawn i wahanol bobol.

“Mae angen sicrhau eu bod yn gwirio gyda’u meddyg teulu.”

Nifer o wahanol resymau am bryder

Mae’r rhesymau am bryder yn niferus, a gall fod oherwydd un digwyddiad neu am nifer o resymau.

“Mae pawb yn wahanol,” meddai Heather Lewis.

“Weithiau gall fod oherwydd bod llawer yn digwydd yn eu bywyd, all fod yn eithaf llethol.

“Gallai hynny fod yn un digwyddiad penodol sydd wedi digwydd iddyn nhw.

“Mae’n bosibl eu bod wedi’u gorlethu â straen a phethau’n digwydd.

“Mae ymateb y corff yn dweud bod angen i ni ofalu amdanom ein hunain, a gweld beth sy’n digwydd er mwyn i ni allu rheoleiddio a chael nifer fwy arferol o bethau’n digwydd.

“Felly gall fod yn wahanol iawn i wahanol bobl.”