Mae Tŷ’r Arglwyddi wedi cefnogi cynnig gan yr Arglwydd Dafydd Wigley i warchod pwerau’r Senedd ym Mae Caerdydd.

Diben Bil Llywodraeth Cymru (Pwerau Datganoledig) yw sefydlu gwarchodaeth gyfreithiol gadarn ar gyfer deddfau’r Senedd.

Mae hyn yn golygu y bydd angen cydsyniad dau draean o Aelodau’r Senedd cyn cyflwyno diwygiadau mawr fyddai’n cael effaith sylweddol ar y ddeddfwrfa yn y meysydd datganoledig.

Daw Bil Plaid Cymru wrth iddyn nhw ymateb i “gipio grym yn ddi-ildio” gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ers y refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dyma’r tro cyntaf i Fil Plaid Cymru gael ei basio gan Dŷ’r Arglwyddi, ac fe fydd yn cael ei drosglwyddo i Dŷ’r Cyffredin ar ôl Trydydd Darlleniad llwyddiannus.

Bydd aelodau seneddol y Blaid bellach yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i neilltuo amser i’w drafod cyn gynted â phosib.

‘Rhagor o waith i’w wneud’

Dywed yr Arglwydd Dafydd Wigley iddo dderbyn awgrym o gefnogaeth gan unigolion o fewn Llafur, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol ac aelodau ar draws y meinciau cyn y ddadl.

“Dw i’n ddiolchgar iawn iddyn nhw, yn ogystal â Senedd Cymru am eu cyngor wrth symud y Bil hwn yn ei flaen,” meddai.

“Nod y Bil ydy cynnig mwy o sefydlogrwydd nag sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers y bleidlais Brexit, sydd wedi arwain at danseilio pwerau deddfu Senedd Cymru gan weithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Ar sawl achlysur, fe fu hyn yn groes i ddymuniadau Llywodraeth Cymru; ac ar adegau, fel pe bai’n gwrthdaro â’r fframwaith deddfwriaethol mae’r Senedd yn gwneud ei waith oddi mewn iddo.

“Dw i bellach yn edrych ymlaen at weld pa gynnydd all gael ei wneud gan aelodau seneddol wrth ystyried rhinweddau’r cynigion hyn.

“Dw i’n credu’n gryf fod yna gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer dealltwriaeth newydd rhwng San Steffan a Senedd Cymru.

“Dw i’n credu bod gwell hinsawdd ar droed, ond fod rhagor o waith i’w wneud.

“Byddai’r ddeddfwriaeth hon yn fodd i wneud hynny.”

‘Tanseilio dymuniadau’

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi llongyfarch yr Arglwydd Dafydd Wigley ar lwyddiant ei Fil.

“Bydd aelodau seneddol Plaid Cymru’n gwthio i neilltuo amser cyn gynted â phosib i’r Bil gael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin,” meddai.

“Mae Cymru wedi goddef cipio grym yn ddi-ildio ers dechrau’r broses Brexit.

“Byddai’r Bil hwn yn sicrhau mai pobol Cymru, drwy eu cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd, fyddai’n penderfynu pa bwerau y bydd modd eu dileu – ac atal ymdrechion unochrog gan San Steffan i danseilio’u dymuniadau.”

Llŷr Gruffydd yn galw am sicrwydd y daw rhagor o bwerau i Gymru

Daw’r alwad am addewid i ddatganoli’r economi, darlledu, ynni, lles, cyfiawnder, a thrafnidiaeth ar drothwy rali annibyniaeth yn Abertawe