Mae cam Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig ar yr awdurdod yn “rhoi statws” i’r iaith ac yn dangos parch ati, meddai rhai sy’n croesawu’r newyddion.

Yn ôl Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin a Chanolbarth Cymru, mae defnyddio’r enw Cymraeg yn unig yn dod â iaith, hanes a diwylliant Cymru’n fyw i bobol.

Yr enw wrth gyfeirio at y parc yn Saesneg fydd ‘Bannau Brycheiniog National Park’, ac mae’r penaethiaid yn dweud bod hwn yn gam tuag at ddathlu a hybu diwylliant a threftadaeth yr ardal.

Mae’n rhan o gyfres o newidiadau i’r ffordd mae’r parc yn cael ei redeg, gyda phwyslais arbennig hefyd ar newid hinsawdd, ac fe ddaw ar ôl i Barc Cenedlaethol Eryri benderfynu defnyddio’r enwau Cymraeg yn unig ar ‘Yr Wyddfa’ ac ‘Eryri’ y llynedd.

‘Iaith fyw’

Mae cydnabod yr enw gwreiddiol, sy’n cyfeirio at y Brenin Brychan fu’n teyrnasu yn y rhan honno o Gymru yn y bumed ganrif yn ôl yr hanes, yn creu ymdeimlad o berthynas rhwng tir a hanes Cymru, ac yn “esbonio enw’n well o lawer hefyd na’r Brecon Beacons”, meddai Cefin Campbell wrth golwg360.

“Dw i’n croesawu’r newyddion yn fawr iawn, iawn.

“Mae dod ag iaith, hanes a diwylliant Cymru’n fyw i bobol drwy newid yr enw yn gorfod bod yn ddatblygiad i’w groesawu, a dw i’n llongyfarch y Parc yn fawr iawn am eu gweledigaeth.

“Wrth gwrs, mae hyn yn dilyn yr esiampl a osodwyd gan Barc Eryri, felly rydyn ni’n gobeithio nawr y bydd Parc Sir Benfro yn dilyn yr un trywydd.

“Mae yna enwau Cymraeg yn unig gan nifer o gyrff yn barod, fel rydyn ni’n gwybod, ond mae e’n dechrau normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg ar enwau cyhoeddus.

“Dw i yn gobeithio y bydd mwy a mwy o gyrff yn dilyn yr esiampl yma, oherwydd i bobol o’r tu allan i Gymru mae e’n symbol clir bod gyda ni iaith fyw yma a bod yr iaith fyw honno yn dod yn rhan naturiol o’r disgwrs cyhoeddus pan mae rhywun yn sôn neu’n cyfeirio at gyrff cyhoeddus.”

‘Datblygu chwilfrydedd’

Ychwanega Cefin Campbell fod y cam yn rhoi statws i’r iaith ac yn gorfodi pobol i ddefnyddio enwau Cymraeg wrth gyfeirio at gyrff cyhoeddus.

“Yn aml iawn mae’r enwau Cymraeg yna’n llawer mwy disgrifiadol ac yn gwneud llawer mwy o synnwyr i bobol,” meddai.

“Beth sy’n digwydd wedyn yw ei fod e’n datblygu chwilfrydedd ymysg pobol ynglŷn â beth yw ystyr gair, ac wedyn maen nhw’n dechrau ymchwilio i enwau Cymraeg ac mae hynny’n sicr yn gallu magu diddordeb yn yr iaith, ac yn bwysicach efallai, parch at yr iaith gan bobol sydd, efallai, ddim yn ymwybodol ohoni fel iaith fyw.

“[O ran] cysylltu tirwedd gyda’r iaith a gyda hanes Cymru, dw i’n meddwl bod hynny hefyd yn mynd i ennyn mwy o barch gan bobol sy’n dod i lefydd fel y Bannau Brycheiniog i gerdded Pen y Fan ac ati.

“A bod pobol yn sylweddoli beth yw ystyr yr enwau yma, nid ‘Pennyffan’ ond Pen y Fan, a bod ystyr i’r enwau Cymraeg yma, eu bod nhw’n ddisgrifiadol, neu eu bod nhw’n cyfeirio at ran o’n hanes ni fel cenedl.”

‘Parch i iaith y wlad’

Dywed Dr David Thorne, sy’n gyn-gadeirydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ei fod yntau hefyd yn croesawu’r cam.

“Mae’n gwneud synnwyr, mae’n dangos parch i iaith y wlad. Mae’n dangos parch i bobol Brycheiniog,” meddai David Thorne wrth wneud sylwadau personol, ac nid rhai ar ran y Gymdeithas Enwau Lleoedd.

“Mae ymwelwyr yn gweld y peth yn ddeniadol, maen nhw mewn gwlad arall ac maen nhw’n sylweddoli hynny ac maen nhw’n gweld y newid enw yn ddeniadol.

“Mewn gwirionedd mae’n cyd-fynd â newidiadau eraill sydd wedi digwydd yn Sir Frycheiniog, mae Ysgol y Bannau – enwau Cymraeg sydd ar ysgolion yn yr ardal hefyd.”

Hanes yr ardal

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae defnyddio’r enw Cymraeg yn unig yn gam positif er mwyn “defnyddio hanes y rhanbarth i helpu i adeiladu dyfodol llwyddiannus i’r Parc”.

“Mae’n wych gweld ailgyflwyno’r enw Bannau Brycheiniog heddiw,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.

“Mae’r neges sydd wedi’i chyflwyno gan y Parc yn enghraifft amlwg o sut allwn ni ddefnyddio hanes y rhanbarth i adeiladu dyfodol gwell i’r Parc.

“Mae gwledydd eraill fel Seland Newydd yn gweld y defnydd o’u hieithoedd brodorol fel Māori nid yn unig yn allweddol i warchod eu hanes a’u diwylliant, ond hefyd fel arf farchnata allweddol.

“Does dim rheswm pam na ddylen ni fod yn gwneud yng Nghymru.

“Y tu hwnt i newid yr enw, yr hyn mae’r Parc wedi tynnu sylw ato heddiw yw eu bod yn wynebu nifer o fygythiadau, boed hynny’n Llywodraeth yn methu â chymryd camau ar yr argyfwng gollwng carthion neu newid hinsawdd.

“Mae’n neges glir i ni i gyd fod yn rhaid i ni uno i warchod yr hyn sy’n drysor cenedlaethol.”

Blaenoriaeth?

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu’r penderfyniad, gydag arweinydd y blaid yn amau a fyddai’r cam yn flaenoriaeth i bobol Cymru.

“Dim ond teimlad, ond dw i’n teimlo na fydd pobol Cymru’n meddwl y dylai ailenwi’r Brecon Beacons yn flaenoriaeth,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae’r Beacons yr un mor adnabyddus tu allan i Gymru ag y maen nhw yma.

“Pam tanseilio hynny?”

Mae James Evans, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Frycheiniog a Maesyfed, wedi cwestiynu hynny hefyd.

“Bydd nifer o fy etholwyr sy’n byw yn y Brecon Beacons National Park yn meddwl faint y bydd yr ail-frandio’n costio i’w ailenwi’n “Bannau Brycheiniog”.

“Dw i ddim yn siŵr bod newid yr enw hwn yn flaenoriaeth bennaf i bobol sy’n byw a gweithio yn y parc!”

 

Bannau Brycheiniog

Bannau Brycheiniog am ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig yn y dyfodol

Daw’r newid ar ben-blwydd y Parc Cenedlaethol yn 66 oed heddiw (dydd Llun, Ebrill 17)