Mae Sky News wedi bod yn gofyn i bobol leol a thwristiaid a ydyn nhw’n gallu ynganu “enw newydd” Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Daw hyn ar ôl i awdurdod y parc gyhoeddi ddoe (dydd Llun, Ebrill 17) y byddan nhw’n defnyddio’r enw Cymraeg yn unig o hyn ymlaen, gan gyfeirio ato yn Saesneg fel ‘Bannau Brycheiniog National Park’.

Ond dydy’r cyhoeddiad heb fod at ddant pawb, gyda nifer – gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru David TC Davies – yn cwestiynu pam fod angen “newid” yr enw.

Mewn eitem ar Sky News, fe fu newyddiadurwr yn gofyn i bobol leol a thwristiaid a ydyn nhw’n gallu ynganu’r enw ‘Bannau Brycheiniog’, gyda rhai yn cael gwell hwyl arni nag eraill.

Roedd ymdrechion y rhai ar gamera’n amrywio o ‘Bannau Bryncechnog’ i ‘Bannau Brycenog’ i ‘Banaw Brynceiniog’.

Ond ar y cyfan, roedd y rhai gafodd eu holi’n cefnogi’r defnydd o’r enw Cymraeg, gydag un yn dweud, “Os yw’n enw Cymraeg go iawn, pam lai?”

Dywedodd un arall y byddai’n dal i ddefnyddio’r enw Saesneg “gan nad oeddwn i’n gallu ei ynganu”, ond ei bod hi’n iawn gan mai “eu tir nhw, eu hiaith a’u treftadaeth” yw Bannau Brycheiniog.

Dywedodd un arall fod “treftadaeth leol yn bwysig iawn”.

‘Beth amdani?’

Un sydd wedi ymateb yn chwyrn i’r eitem yw’r newyddiadurwr a siaradwr Cymraeg Andy Bell yn Awstralia.

“Felly pryd ydych chi’n mynd allan i ofyn i bobol sut i ddweud Cholmondeley, Marylebone, Teignmouth, Hunstanton a Bicester?” meddai.

“Dyna beth fyddai darlledwr meddylgar yn ei wneud, efallai, mewn gwladwriaeth amlieithog.

“Beth amdani?”

‘Anghywir’

Dywed y digrifwr Alun Saunders fod Sky News yn “anghywir” wrth ddweud bod yna enw Cymraeg “newydd” ar gyfer Bannau Brycheiniog.

“Anghywir,” meddai.

“Dyw e ddim yn mynd i ‘newid ei enw’.

“Bannau Brycheiniog fuodd e erioed.

“Yn syml, mae’n mynd yn ôl i ddefnyddio’r Gymraeg.

“Plis cywirwch hyn.”