Mae gwybodaeth sydd wedi’i gweld gan Blaid Cymru yn nodi nad oedd Llywodraeth Cymru wedi “cynrychioli’r ffeithiau’n gywir” wrth nodi’r rhesymau dros dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig fis Tachwedd 2020.

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd ar y pryd, fod “Prif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru wedi rhoi cyngor clir y dylai mesurau arbennig Betsi Cadwaladr ddod i ben, a dyna sail fy mhenderfyniad i”.

Eleni, mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau bod y penderfyniad wedi ei wneud “oherwydd i ni gael ein cynghori mai dyna ddylem ni ei wneud gan yr archwilydd cyffredinol…”

Fodd bynnag, mewn llythyr at Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, mae Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn cadarnhau, “Wrth ymateb i’ch cwestiwn penodol ynghylch a oedd cyngor gennyf i neu fy staff i’r Gweinidog i ostwng lefel y Bwrdd Iechyd o Fesurau Arbennig bryd hynny, gallaf fod yn glir iawn, nad oedd.”

‘Diystyru galwadau’

Dywed Cod moeseg y gweinidogion Llywodraeth Cymru ei bod “o’r pwys mwyaf bod yr wybodaeth y mae’r Gweinidogion yn ei rhoi i’r Senedd yn gywir ac yn wir, a’u bod yn cywiro unrhyw gamgymeriad a wnaed drwy amryfusedd cyn gynted ag y bo modd”.

Ysgrifennodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, at y Prif Weinidog i ofyn am ddatrysiad i’r mater, ond mae wedi “diystyru galwadau Plaid Cymru i gywiro’r cofnod”, meddai’r Blaid.

“Oherwydd difrifoldeb y mater, a’r ffaith ei fod er budd y cyhoedd i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i bawb”, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi’r llythyr gan yr Archwilydd Cyffredinol at Adam Price, sy’n cadarnhau na ddaeth cyngor o’r fath gan Archwilio Cymru i gymryd y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig.

‘Ceisio gwella darpariaeth gofal iechyd’

“Y peth pwysicaf i mi, ac i Blaid Cymru, yw ceisio gwella darpariaeth gofal iechyd yn y gogledd,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Heb os, mae’r staff, cleifion a phoblogaeth ehangach yn y gogledd yn haeddu gwell gan eu bwrdd iechyd a gan y llywodraeth sydd wedi bod yn ei rheoli ers cyhyd.

“Ers talwm codwyd cwestiynau ynghylch amseru cymryd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig – a hynny’n gyfleus cyn etholiad Senedd 2021.

“Ond cafodd unrhyw ymgais i holi hyn gyda Llywodraeth Cymru ei diystyru’n gadarn.

“Mewn gwirionedd, honnwyd – gan Brif Weinidog Cymru ddim llai – bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynghori ‘dylai’ bwrdd iechyd gael ei dynnu allan o fesurau arbennig.

“Bellach mae gennym dystiolaeth na chafodd Llywodraeth Cymru gyngor o’r fath gan yr Archwilydd Cyffredinol.

“Mae’n ofynnol i Blaid Cymru, fel gwrthblaid, gwestiynu’r anghysondeb hwn.

“Roeddem yn barod i roi cyfle teg i’r Prif Weinidog gyflwyno camau i unioni’r sefyllfa hon, ond mae’r diffyg ymateb digonol, a dyfnder diddordeb y cyhoedd yn y mater yn golygu bod yn rhaid i ni ddod â hyn i’r parth cyhoeddus.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae cynnal gwerthoedd cywirdeb, gonestrwydd a thryloywder mewn bywyd cyhoeddus yn hollbwysig.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Fe wnaeth y Prif Weinidog esbonio yn glir wrth y Senedd fod penderfyniadau ynghylch statws y bwrdd iechyd yn cael eu gwneud gan Weinidogion yn unig, ar sail cyngor gan swyddogion Llywodraeth Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Cafodd y cyngor hwn ei lywio’n uniongyrchol gan broses sefydliedig, sy’n cynnwys Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.”