Mae gofyn i bobol Cymru enwebu’r menywod mwyaf rhyfeddol yn eu bywydau, wrth i Wobrau Womenspire Chwarae Teg ddychwelyd unwaith eto.

Mae’r elusen cydraddoldeb rhywedd wedi agor enwebiadau ar gyfer eu dathliad blynyddol, sy’n cydnabod cyflawniadau a chyfraniadau menywod eithriadol o bob cefndir.

Bellach yn eu hwythfed flwyddyn, bydd y gwobrau’n cael eu cynnal yn fyw ym mis Tachwedd ac yn cael eu darlledu ar-lein ar yr un pryd trwy YouTube a LinkedIn Live.

Mae gan Wobrau Womenspire Chwarae Teg 2023 naw categori sy’n agored i fenywod, sef:

  • Hyrwyddwr Cymunedol
  • Menyw mewn Chwaraeon (noddwr: Chwaraeon Cymru)
  • Seren Ddisglair (noddwr: Floventis Energy)
  • Dysgwr
  • Entrepreneur
  • Arweinydd (noddwr: Business in Focus)
  • Menyw mewn STEM (noddwr: The ABPI)
  • Menyw mewn Iechyd a Gofal (noddwr: Addysg a Gwella Iechyd Cymru/AaGIC)
  • Gwobr Cysylltydd Cymunedol, i gydnabod menyw sydd ag anabledd dysgu (noddwr: Mencap Cymru)

Bydd Gwobr Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd hefyd, wedi’i noddi gan Academi Wales, sy’n agored i unigolyn o unrhyw rywedd, i gydnabod eu hagwedd ragweithiol at gau’r bwlch rhwng y rhyweddau yn eu gweithle.

Bydd ymrwymiad sefydliadau a busnesau sy’n rhan o raglen Cyflogwr Chwarae Teg i gefnogi menywod i gyflawni a ffynnu hefyd yn cael ei gydnabod trwy Wobr Cyflogwr Chwarae Teg.

Mae’r enwebiadau’n cau am 12 o’r gloch y nos ar Fai 31, ac mae modd cyflwyno enwebiadau drwy’r wefan www.chwaraeteg.com/womenspire.

‘Brwdfrydedd yn tyfu’

“Mae’r brwdfrydedd dros Womenspire yn tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn gan ei fod yn ddigwyddiad heb ei ail – mor arbennig ac yn llawn straeon ysbrydoledig ac adloniant,” meddai Lucy Reynolds, Prif Weithredwr Chwarae Teg.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn cadw ein fformat hybrid hefyd gan ei fod yn rhoi’r gorau o ddau fyd i ni – gan roi’r cyfle i filoedd diwnio i mewn o gysur eu cartrefi eu hunain, tra gall y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol a’n cefnogwyr ymuno â ni yn bersonol yn y digwyddiad byw.

“Byddwn yn gofyn i bobol o bob cornel o Gymru, sy’n adnabod menyw ysbrydoledig, neu fusnes sy’n mynd y tu hwnt i’r llall, i enwebu.

“Rydyn ni eisiau clywed am gynifer o bobol ryfeddol â phosibl o bob rhan o’r genedl, sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau eu hunain ac i fywydau pobl eraill.”