Tirfeddianwyr, ac nid Cyngor Conwy, sy’n gyfrifol am warchod eu heiddo rhag difrod gan y geifr sy’n crwydro oddi ar y Gogarth, yn ôl rhybudd mewn adroddiad newydd.

A bydd Conwy hefyd yn gwrthod cyfyngu’r geifr Kashmir gan ddefnyddio ffensys gan eu bod yn poeni y byddan nhw’n dod yn bennaf gyfrifol am les yr anifeiliaid.

Bydd cynghorwyr yn ystyried cynlluniau i reoli’r geifr ar y cyd ag asiantaethau sy’n bartneriaid iddyn nhw, ar ôl i’r anifeiliaid redeg yn wyllt drwy Landudno, Llanrhos a Chraig y Don fin nos yn ystod y pandemig.

Gan gydweithio â chyngor y dref, Mostyn Estates, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r RSPCA, mae’r Cyngor yn edrych ar ffyrdd newydd o reoli’r anifeiliaid er mwyn lleihau’r gwrthdaro â chymdogion.

Ymhlith y dulliau presennol o reoli poblogaeth y geifr a’u symudiadau mae casglu’r anifeiliaid ynghyd ar adegau, dulliau atal cenhedlu ac adleoli.

Ond mae’r adroddiad yn rhybuddio bod tirfeddianwyr yn gyfrifol am warchod eu tir, ac y gallen nhw hyd yn oed fod yn gyfrifol am les yr anifeiliaid.

Yr adroddiad

“Mae geifr Llandudno wedi crwydro’n wyllt ers dros 100 mlynedd, ac roedden nhw’n wreiddiol yn rhodd i’r Arglwydd Mostyn gan y Frenhines Victoria,” meddai’r adroddiad.

“Er eu bod nhw unwaith dan berchnogaeth yr Arglwydd Mostyn, mae’r geifr wedi dychwelyd i fod yn wyllt ac maen nhw felly’n cael eu hystyried yn anifeiliaid gwyllt bellach.

“Does yna’r un person na sefydliad yn gyfreithiol gyfrifol am boblogaeth geifr Llandudno, a dim ond os ydyn nhw’n cael eu cyfyngu y byddan nhw’n dod yn eiddo i rywun.

“Gan fod y geifr yn anifeiliaid gwyllt, nid cyfrifoldeb cyfreithiol y Cyngor yw cadw’r geifr ar y Gogarth drwy ffensys na ‘chadw’.

“Os oes difrod yn cael ei achosi i eiddo gerllaw, mae’r cyfrifoldeb felly ar berchnogion yr eiddo hyn i gadw’r geifr allan.

“Mae gan dirfeddianwyr hawl yn gyfreithiol i weithredu ar ran lles anifail os yw anifail gwyllt mewn pryder tra ei fod ar eu tir.”

Saethu geifr

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod y Cyngor wedi ystyried saethu geifr yn ystod y 1990au i gadw eu niferoedd yn isel, ond fod protest gyhoeddus wedi atal yr awdurdod lleol.

“Roedd gweithgor, sy’n gyfuniad o swyddogion y Cyngor, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Mostyn Estates, a milfeddyg lleol, wedi ystyried yr opsiynau,” meddai’r adroddiad.

“Fe wnaeth argymell fod y boblogaeth geifr gwyllt yn cael ei rheoli drwy saethu anifeiliaid unigol, a thargedu rhai oedd yn sâl, wedi’u hanafu neu’n hen iawn.

“Cafodd yr argymhelliad hwn ei gefnogi gan Weithgor Parc Gwledig y Gogarth a phwyllgor cynllunio Cyngor Bwrdeistref Aberconwy, ond cafodd ei wyrdroi gan y Cyngor llawn yn dilyn protest gyhoeddus fawr yn Bodlondeb.”

Bydd pwyllgor economi a goruchwylio lleoedd a chraffu’r Cyngor yn trafod materion sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Rheoli Geifr Gwyllt Llandudno ddydd Iau (Ebrill 20).