Bydd Senedd Catalwnia yn apelio yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Etholiadol i ddileu statws Aelod Seneddol y Llefarydd Laura Borràs, sydd wedi’i diarddel o’i gwaith.

Eu nod wrth gyflwyno apêl yw gwarchod rheoliadau’r siambr, sydd ond yn gallu tynnu pobol o’u seddi seneddol pan ddaw dyfarniad terfynol.

Maen nhw hefyd yn teimlo nad oes gan y Bwrdd Etholiadol mo’r grym i wneud y penderfyniad ynghylch statws aelod seneddol.

Rhoddodd y Bwrdd ddeng niwrnod i Senedd Catalawnia i benderfynu ar statws Borràs, ar ôl iddi gael ei dedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar a gwaharddiad am 13 mlynedd rhag bod mewn swydd gyhoeddus yn sgil llygredd ariannol.

Bydd yn rhaid i Alba Vergés, dirprwy lywydd swyddfa’r siambr a’r llefarydd dros dro, roi gwybod i’r Bwrdd Etholiadol am unrhyw “benderfyniadau, datrysiadau neu fesurau eraill” yn y senedd erbyn Ebrill 27.

Pleidleisiodd cynrychiolwyr o bleidiau Esquerra, Junts per Catalunya a CUP o blaid apelio, tra bod y Sosialwyr wedi pleidleisio yn erbyn.