Mae tua 300 o eitemau hanesyddol oedd ar fenthyg yng Nghastell y Waun bellach ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r teulu Myddelton wedi cwblhau trafodaethau gyda’r elusen gadwraeth i werthu’r eitemau mwyaf arwyddocaol sy’n weddill, gan gynnwys dodrefn, paentiadau a llawysgrifau hanesyddol unigryw.
Ymhlith y paentiadau mae portreadau o hynafiaid y teulu Myddelton gan Syr Peter Lely, Michael Dahl a Syr Geoffrey Kneller.
Mae’r dodrefn yn cynnwys drychau gwydr pier prin o’r ddeunawfed ganrif, a bwrdd derw 17 troedfedd o hyd yn Neuadd y Gweision.
Mae’r archifau’n cynnwys llythyrau a nodiadau sy’n ymwneud â chyfranogiad cythryblus y teulu ar y ddwy ochr yn Rhyfel Cartref Lloegr.
Mae’r eitemau personol yn cynnwys het ledr fregus ‘ar gyfer y Barwnig’ gafodd ei nodi yng nghyfrifon y castell yn 1668.
Mae llawer o’r eitemau sydd bellach ym meddiant yr Ymddiriedolaeth wedi bod ar fenthyg i’r elusen ers iddi brynu’r castell yn 1981.
Dros fwy na phedwar degawd, mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod wrthi’n casglu gwahanol wrthrychau, gweithiau celf a llyfrau sy’n gysylltiedig â hanes Y Waun a hynny drwy eu prynu o arwerthiannau, trwy anrhegion a derbyn yn lle treth a thrwy werthiant preifat.
Gyda’r pryniant diweddaraf hwn, mae’r Ymddiriedolaeth bellach wedi caffael rhai eitemau o’r casgliad sydd o’r arwyddocâd hanesyddol mwyaf.
Castell y Waun
Cafodd Castell Y Waun, sydd ym mhen uchaf dyffryn Ceiriog, ei gwblhau o gwmpas y flwyddyn 1310, ac roedd yn un o nifer o gaerau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr gafodd eu hadeiladu i gynnal concwestau Edward I.
Cafodd ei brynu gan Syr Thomas Myddelton, anturiaethwr masnachol o Sir Ddinbych yn wreiddiol, ac fe drawsnewidiodd y gaer yn gartref teuluol.
Trwy’r canrifoedd dilynol, bu gan deulu Myddelton gysylltiad di-dor â’r castell, a chaiff eu hanesion eu hadlewyrchu yn y cyfoeth o gasgliadau sydd ar ôl.
Mae rhan olaf y casgliad sydd bellach ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys nifer o bortreadau o aelodau’r teulu Myddelton drwy’r canrifoedd gan arlunwyr megis Michael Dahl, Syr Godfrey Kneller a Syr Peter Lely; tirluniau unigryw o ddechrau’r 18fed ganrif gan John Wootton a Peter Tillemans yn darlunio’r Waun ac a gafodd ei gomisiynu ar gyfer y castell; a dodrefn gan wneuthurwyr cabinet a chlustogwyr ffasiynol y ddeunawfed ganrif, Ince & Mayhew, ynghyd â dau ddrych gwydr pier ysblennydd.
Mae’r eitemau unigryw sydd wedi goroesi yn cynnwys bwrdd neuadd gweision o’r ail ganrif ar bymtheg a wnaed o un darn di-dor o dderw, dros bum metr (17 troedfedd) o hyd lle byddai hyd at 40 o staff yn ymgynnull i fwyta eu prydau.
Mae casgliad mawr o ddogfennau ystâd, sy’n dyddio mor gynnar â 1250, yn rhoi cipolwg ar hanes y castell, ei drigolion a’i gymuned dros y canrifoedd.
Yn ystod ei hanes, mae Castell y Waun wedi bodoli yn Lloegr ac yng Nghymru wrth i’r ffiniau gael eu newid yn dilyn brwydrau amdanyn nhw.
Mae papurau brenhinol saith o frenhinoedd/brenhinesau gwahanol, yn dechrau gydag Elizabeth I, a dogfen sy’n dangos y darlun hysbys cyntaf o Gastell y Waun yn 1563, ymhlith dwsinau o lawysgrifau sydd wedi cael eu trosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth.
Mae’r ystod o ddeunydd sy’n ymwneud â Rhyfel Cartref Lloegr o bwys arbennig ac yn cynnwys nodiadau, llythyrau a phoster yn ceisio ac yn enwi bradwyr (‘traytors’), gan gynnwys Syr Thomas Myddelton yr ail, a gefnogodd y Senedd ar ddechrau’r Rhyfel ond a drosglwyddodd ei deyrngarwch wedyn i Charles II er mwyn adfer y frenhiniaeth.
Eitem brin arall sydd wedi goroesi o’r ail ganrif ar bymtheg yw het ledr ddu, a brynwyd ‘ar gyfer y Barwnig’ Thomas Myddelton (ŵyr Thomas yr ail), ac mae’n debyg ei bod yn un o bedair het newydd a nodwyd yng nghyfrifon y castell ym 1668.
‘Lle eiconig’
Yn ôl Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Cymru Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, mae Castell Y Waun yn “lle eiconig”.
Mae hi’n ychwanegu bod y casgliad hwn yn bwysig o ran hanes ar sawl lefel a’u bod yn rhan o hanes Cymru.
“Mae Castell Y Waun yn lle eiconig yn hanes Cymru, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu sicrhau’r rhan olaf a’r fwyaf arwyddocaol hon o’r casgliad sydd wedi bod ar fenthyg i ni gan y teulu Myddelton gydag eitemau sy’n cwmpasu cannoedd o flynyddoedd,” meddai.
“Mae’r gwrthrychau hyn yn adlewyrchu hanes gwleidyddol, masnachol a chymdeithasol cenedlaethau o’r teulu hwn, ond hefyd teuluoedd ac unigolion eraill sy’n gysylltiedig â’r castell.
“Mae eu diddordebau artistig, cerddorol a llenyddol yn glir i’w gweld ynghyd â’r modd y comisiynwyd yr enwau mwyaf yn y maes pensaernïaeth ac addurno i ddylunio a diweddaru’r castell.
“Mae’r cytundeb pryniant hwn yn cadarnhau gwaddol y teulu Myddelton wrth i ni barhau i adrodd y straeon hyn.
“Er bod llawer o’r eitemau o’r casgliadau yr ydym wedi’u prynu eisoes yn cael eu harddangos yn y castell, mae’r ffaith ein bod yn berchen arnynt yn awr yn golygu y gallwn ymchwilio’n llawn i’r gwrthrychau a’r archifau, a gwneud gwaith cadwraeth a dadansoddi technegol, a bydd hyn oll yn caniatáu i ni gynnig dulliau newydd i bobl fwynhau’r profiad ohonynt yn eu hamgylchedd hanesyddol.
“Byddwn yn gallu dysgu mwy am eu cyd-destun, eu pwysigrwydd a’u gwerth yn hanes Cymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a byddwn yn gallu rhannu’r straeon hyn ar-lein a gydag ymwelwyr sy’n dod i gael golwg ar y castell yn bersonol.”
‘Gweld yr eitemau yn y cyd-destun mwyaf priodol’
Yn ôl Guy Myddelton, nid yn unig mae’r eitemau’n rhan o’r gorffennol ond y dyfodol hefyd.
Bydd y teulu Myddelton yn symud allan o ardaloedd preifat y castell maes o law.
“Mae Castell y Waun wedi bod ym mherchenogaeth a than reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 1981, ac nid yw bellach yn addas i fod yn breswylfan breifat i deulu,” meddai.
“Rwy’n falch ein bod wedi gallu dod i gytundeb gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n sicrhau gwaddol y teulu Myddelton yn Y Waun a bod gweddill casgliad y Waun ar gael er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael gweld yr eitemau yn y cyd-destun mwyaf priodol.”
Fel rhan o’r cytundeb prynu, mae’r teulu Myddelton yn symud allan o’r ardaloedd preifat hynny sy’n weddill yn y castell, yn ogystal â’r Adain Ddwyreiniol sydd ond wedi bod ar gael yn ysbeidiol ar gyfer mynediad cyhoeddus.
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn ystyried y ffordd orau o ddefnyddio ac arddangos y gofodau hyn a byddan nhw’n rhannu eu cynlluniau yn y misoedd nesaf.
Mae prynu eitemau o werth uchel yn y casgliad wedi bod yn bosibl drwy gynllun Gwerthu Cytundeb Preifat sy’n caniatáu i berchnogion preifat werthu eitemau i sefydliadau cenedlaethol heb fynd drwy broses ocsiwn ac am bris sy’n fanteisiol i’r ddwy ochr.