Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i San Steffan a fydd hi’n bosib sicrhau bod ceiswyr lloches ifainc sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig ar eu pennau eu hunain yn gallu cael mynediad at daliadau cymorth cyfreithiol.
Ar hyn o bryd, mae rhaglen beilot incwm sylfaenol yng Nghymru’n cynnig £1,600 bob mis am ddwy flynedd i bobol ifanc sy’n gadael gofal.
Mae’r cynnig hwnnw’n agored i rai Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches (UASCs) yn barod, er bod adroddiadau diweddar yn y wasg yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru’n ceisio ymestyn y peilot i gynnwys ceiswyr lloches.
Yn sgil swm yr incwm sy’n cael ei dderbyn drwy’r taliad incwm sylfaenol, mae Llywodraeth Cymru ar ddeall y byddai’n annhebygol y byddai ceiswyr lloches ifainc yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol pe baen nhw ei angen, er enghraifft er mwyn eu helpu rhag cael eu hallforio.
‘Cefnogaeth i ailadeiladu eu bywydau’
O ganlyniad i hynny, mae tri o weinidogion Cymru – Jane Hutt, Mick Antoniw a Julie Morgan – wedi ysgrifennu at Weinidog Cyfiawnder y Deyrnas Unedig yn gofyn am gadarnhad ar y mater ac yn holi a oes modd cytuno ar broses fydd yn caniatáu i bobol ifanc sy’n derbyn incwm sylfaenol gael mynediad at daliadau cymorth cyfreithiol.
“Rydyn ni’n credu bod gan bobol sy’n gadael gofal yr hawl i gael cefnogaeth addas wrth iddyn nhw ddatblygu i fod yn oedolion ifainc annibynnol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae gormod o bobol ifanc yn gadael gofal ac yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol wrth geisio symud yn llwyddiannus at fod yn oedolion, o gymharu â nifer o’u cyfoedion.
“Gan gyd-fynd â’n hagwedd fel Cenedl Noddfa, rydyn ni eisiau sicrhau bod Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches yn cael y gefnogaeth i ailadeiladu eu bywydau ac nad ydyn nhw’n cael eu rhwystro rhag cael mynediad at raglenni a budd-daliadau perthnasol Llywodraeth Cymru.”
‘Gwario’n well’
Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r ffaith fod y cynnig o £1,600 y mis ar gael i geiswyr lloches ifainc hefyd.
Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r Blaid Lafur yn annog pobol i groesi i’r Deyrnas Unedig mewn cychod bychain drwy’r taliadau hyn, tra bod “Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio i sicrhau nad yw pobol yn peryglu eu bywydau’n dod draw mewn cychod”.
“Gallai’r arian hwn gael ei wario’n well ar Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, mae’r math hwn o wastraff yn gyffredin gan Lywodraeth Cymru ac yn adlewyrchiad o sut fyddai cynlluniau a pholisïau yn edrych dan lywodraeth Lafur yn San Steffan,” meddai.