Mae papur bro hynaf Cymru wedi cyhoeddi rhifyn arbennig i ddathlu 50 mlynedd yr wythnos hon.

Cafodd Y Dinesydd ei lansio yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 1973, a syniad y diweddar Dr Meredydd ‘Merêd’ Evans oedd dechrau’r papur.

Daeth un rhes o bapurau tebyg o bob cwr o Gymru ar ei ôl, ond fel sawl papur bro arall mae cylchrediad y papur wedi gostwng dros y degawd diwethaf, ac mae pwyllgor Y Dinesydd yn awyddus iawn i gael gwaed newydd a denu darllenwyr iau.

Gwilym Dafydd, sydd yng ngofal colofn siaradwyr newydd y papur ac ar bwyllgor Y Dinesydd ers 2013, oedd yn gyfrifol am gydlynu’r rhifyn arbennig i ddathlu’r pen-blwydd.

‘Denu gwaed ifanc’

Yr her nawr ydy denu darllenwyr a chyfranwyr ifanc, ynghyd â chael aelodau iau ar y pwyllgor, meddai Gwilym Dafydd wrth siarad â Golwg.

Pan ddechreuodd ar y pwyllgor, roedd 750 o gopïau caled yn cael eu cyhoeddi bob mis, ond mewn degawd ers hynny mae wedi gostwng i 390 copi. Mae tua 100 o bobol yn derbyn copïau digidol dros e-bost hefyd.

“Peth arall sy’n broblem i ni, fel papurau bro yn gyffredinol dw i’n meddwl, yw cyfartaledd oedran y darllenwyr,” meddai.

“Mae llawer iawn yn eu 80au a’u 90au.

“Mae tanysgrifiadau newydd yn dod i law, ond ychydig iawn o ddarllenwyr sydd dal i weithio.

“Does dim llawer o bobol o dan 60 oed yn tanysgrifio. Materion y mae’n rhaid i ni drio’u datrys eleni yw bod rhaid i ni gael pobol ifancach ar y pwyllgor.

“Be’ sy’n ddiddorol yw pan rydych chi’n sôn am yr hen ddyddiau ar y cychwyn, roedd y bobol gynnar yma’n weddol ifanc.

“Roedd Merêd yn ei 40au yn 1973, y golygydd cyntaf Norman Williams, 26 oed oedd e, sy’n rhyfeddol.

“Pobol hŷn sydd ar y pwyllgor ar wahân i ambell un. Hwnna yw’r her i’r dyfodol, rydyn ni angen gwaed ifancach.

“Y ffyddloniaid sydd yn darllen y papur ac yn talu amdano fo, maen nhw’n werthfawrogol iawn.

“Mae’r rhai sydd dal gyda ni wedi darllen y papur ers degawdau lawer.

“Mae’r dysgwyr hefyd yn dda, dw i’n gwneud Clonc i’r dysgwyr ac maen nhw’n dda iawn yn cefnogi.”

Papur bro cyntaf Cymru’n 50 oed

Cadi Dafydd

Mae papurau bro wedi eu disgrifio fel “mudiad grymus yn hanes y Gymraeg”. A’r her at y dyfodol yw denu gwaed ifanc