Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi croesawu buddsoddiad Hitachi yng Nghanolfan Fyd-eang ar gyfer Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) De Powys.

Bydd y cwmni Hitachi Energy, sy’n arbenigo mewn technoleg trenau, yn ffurfio partneriaeth gyda’r ganolfan er mwy profi eu technoleg ddiweddaraf.

Daw hyn yn dilyn llwyddiant cwmni Hitachi wrth ennill tendr cystadleuol i ddarparu Trawsnewidydd Amledd Statig i reoli’r grid pŵer a darparu gwarant ynni.

Mae’r cwmni hefyd wedi datblygu datrysiadau digidol allai awtomeiddio traciau, llinellau uwchben a monitro llystyfiant er mwyn gallu canfod diffygion a thrwy hynny lleihau costau.

Y gobaith yw y bydd y ganolfan, sy’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd, yn gallu cefnogi camau nesaf y datblygiad trwy ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial er mwyn rhagfynegi namau ac arbed costau cynnal a chadw.

Bydd y ganolfan hefyd yn gartref i ymchwil byd-eang ac yn darparu gwasanaethau ar gyfer cwmnïau eraill yn y Deyrnas Unedig a’r farchnad Ewropeaidd.

Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i greu sylfaen sgiliau digidol yn ne Powys a thrwy hynny yn cefnogi swyddi yn y gadwyn gyflenwi ehangach.

Hwb i economi de Powys

“Mae hwn yn fuddsoddiad arall i’w groesawu yn ein sir a fydd yn rhoi hwb mawr ei angen i’r economi a swyddi yn ne Powys,” meddai Jane Dodds.

“Mae’n gyffrous gweld darparu canolfan arloesi rheilffyrdd o’r radd flaenaf sydd eisoes yn denu cwmnïau o safon fyd-eang.”

Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, hefyd wedi datgan ei gefnogaeth i’r bartneriaeth.

“Mae’r bartneriaeth newydd gyffrous hon rhwng Hitachi a’r Ganolfan Fyd-eang ar gyfer Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn newyddion gwych i Gymru,” meddai.

“Mae’n amlygu’r partneriaid masnachol pwysig ac o safon uchel sydd â diddordeb mewn profi ac arloesi mewn cyfleuster o safon fyd-eang.

“Mae hyn yn dangos pam fod Llywodraeth Cymru yn iawn i fuddsoddi yn GCRE ac i helpu i ddatblygu’r cysyniad cyffrous hwn.

“Gall Hitachi weld y potensial a’r gwerth ychwanegol unigryw y bydd y cyfleuster hwn yn ei ddarparu.

“Rwy’n mawr obeithio gweld mwy o bartneriaethau creadigol yn cael eu datblygu gyda GCRE yn y dyfodol.”

Helpu’r ganolfan “i wireddu ei photensial”

Dywed Jim Brewin, Pennaeth Hitachi Rail yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, fod y bartneriaeth “yn atgyfnerthu ymrwymiad Hitachi i arloesi a chadwyn gyflenwi’r Deyrnas Unedig”.

“Trwy’r cytundeb cychwynnol hwn, rydym yn falch o helpu GCRE i wireddu ei botensial a’i uchelgais i ddod yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi rheilffyrdd,” meddai.

“Bydd gallu profi trenau a thechnoleg Prydain yn y ddolen brawf yng Nghymru o fudd i deithwyr rheilffordd ac economi’r DU yn y pen draw.”