Mae’n bosib deddfu ar y farchnad dai yng Nghymru oherwydd bod Llywodraeth Cymru, dan arweiniad y Prif Weinidog Mark Drakeford, yn “deall anghyfiawnder cymdeithasol”, yn ôl un o’r ymgyrchwyr.
Ar Fai 8, am 11.30yb, bydd pobol yn llenwi’r Maes yng Nghaernarfon i wrando ar siaradwyr a cherddoriaeth fel rhan o’r ymgyrch Nid Yw Cymru Ar Werth.
Yn ôl Osian Jones, Swyddog Ymgyrchu’r ymgyrch, mae hi’n adeg dyngedfennol i’r sefyllfa dai yng Nghymru, a rŵan ydy’r amser i weithredu i gael Deddf Eiddo.
‘Llywodraeth sosialaidd’
Yn ôl Osian Jones, anghyfiawnder cymdeithasol ac ariannol yw’r sefyllfa dai, ond mae gobaith y bydd newid gyda Llywodraeth Lafur Cymru’n ddigon asgell chwith.
“Rwy’n meddwl yn gyffredinol, yng Nghymru efo llywodraeth Mark Drakeford, mae gennym lywodraeth sydd yn deall y problemau a’r materion,” meddai wrth golwg360.
“Maen nhw’n llywodraeth eithaf sosialaidd mewn ffordd, ac maen nhw yn deall pwysigrwydd anghyfiawnder cymdeithasol.
“Pan wyt ti’n berwi lawr i’r sefyllfa yn ei hanfod, beth ydy o mewn ffordd ydy anghyfiawnder cymdeithasol, bod pobol yn gallu prynu tai, weithiau yn ail, trydydd, pedwerydd tŷ, weithiau pumed, chweched er mwyn creu busnes AirBnBs iddyn nhw eu hunain.
“Oherwydd lle maen nhw’n byw a’r arian maen nhw’n gallu gwneud mewn cyflogau, mae’n prisio pobol gyffredin yng Nghymru allan o’r farchnad yn gyfan gwbl.
“Rwy’n meddwl bod hi’n amser i ni symud oddi wrth weld tai ac eiddo fel pethau ariannol.
“Mae tai ac eiddo angen cael eu gweld fel budd cymunedol.
“Dyna pam ei fod yn bwysig bod cymaint yn dod [i’r rali].”
Yn ôl Osian Jones, yn y gorffennol pan oedd ymgyrch ‘Nid Yw Cymru Ar Werth’ yn flaenllaw iawn, roedd yna lywodraeth asgell dde Geidwadol yn Llundain oedd ddim yn gwneud unrhyw beth am y sefyllfa.
Ond teimla fod y camau mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i ddelio â’r argyfwng tai wedi dangos eu bod yn gwrando ar ymgyrchu, a bod gobaith am gamau pellach.
“Nid ydym erioed wedi cael cyfle fel hwn i ddeddfu yn y maes yma o’r blaen yng Nghymru,” meddai.
“Pan oedd yr ymgyrch ‘Nid Yw Cymru Ar Werth’ a Deddf Eiddo yn ei hanterth ddiwedd yr 80au, dechrau’r 90au, beth oedden ni’n ymladd yn ei erbyn oedd llywodraeth Thatcher a Major yn Llundain.
“Doedden ni byth yn mynd i gael Deddf Eiddo ganddyn nhw.
“Rŵan, mae ymgyrchu wedi gweithio.
“Mae yna drethi wedi cael eu codi ar ail gartrefi.
“Mae yna obeithio cyfyngu am fod ar faint o AirBnBs sy’n gallu bod ym mhob cymuned.
“Felly mae’n amlwg i mi fod Llywodraeth Cymru yn fodlon gwrando a bod Llywodraeth Cymru’n fodlon gweithredu a bod pobol ddim yn digalonni a meddwl be’ allwn ni wneud am y peth.
“Mae wedi dangos i ni yn ystod y ddwy flynedd diwethaf bod ymgyrchu wedi gweithio ar y mater yma a chawn ni ddim cyfle eto fel hyn.”
Deddf Eiddo
Ym marn Osian Jones, dydy Deddf Eiddo ddim yn gymhleth ond yn hytrach yn ffordd o roi’r farchnad dai yn nwylo’r gymuned, a’i farn yw mai dyma’r ateb i’r argyfwng tai yng Nghymru.
“Mae Deddf Eiddo ar yr olwg gyntaf i weld yn eithaf cymhleth,” meddai.
“Beth ydy o yn ei hanfod ydy bod chdi’n rhoi pŵer a grym yn nwylo cymunedau lleol.
“Yn aml iawn efo’r system gyfalafol sy’n bodoli yng Nghymru ac ym Mhrydain, mae cymunedau yn aml yn teimlo fod gynnon nhw ddim pŵer a dim grym.
“Yn ei hanfod, byddai’n creu marchnad dai leol a’r farchnad dai hynny yn nwylo pobol leol, bod y bobol leol yn gallu penderfynu faint o dai sydd angen yn lle ac i bwy, yn hytrach na bod yna ryw ddatblygwr mawr yn penderfynu mai nhw, oherwydd arian mewn ffordd, sydd efo’r pŵer er mwyn gwneud elw.
“Mae Deddf Eiddo yn eithaf syml mewn ffordd.”
Y broblem
Yn ôl Osian Jones, mae’r sefyllfa dai wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod clo ac mae angen parhau i weithredu drwy ymgyrchoedd a ralïau o fewn y genhedlaeth yma i gael datrysiad.
“Mae pobol wedi gwybod ers cenhedlaeth neu fwy bod y sefyllfa dai yn broblem, ond rwy’n meddwl bod y cyfnod clo wedi cyflymu bob dim fyny a gwneud y sefyllfa llawer gwaeth na beth oedd o,” meddai.
“Rwy’n meddwl un peth galli di ddweud am ymgyrch ‘Nid Yw Cymru Ar Werth’ ydy ei fod wedi bodoli rŵan ers bron i dair blynedd a bod o wedi amlygu’r broblem i bobol Cymru i gynnal cyfres o ralïau poblogaidd, trefnu gweithredoedd ac ymgyrch sydd, yn fy marn i, wedi bod yn effeithiol iawn.
“Mae yna gonsesiynau wedi cael eu rhoi ar y llywodraeth sy’n ofnadwy o bwysig.
“Rwy’n meddwl bod hynny wedi dod yn sgil yr holl ymgyrchu sydd wedi bod.
“Rwy’n meddwl ei fod yn ofnadwy o bwysig bo ni ddim yn gadael hwn i’r genhedlaeth nesaf neu’r genhedlaeth ar ôl, ei fod yn cael ei sortio allan.
“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn rhedeg ymgyrch neu ymgyrchoedd o gwmpas hyn ers blynyddoedd lawer.
“Rwy’n meddwl mai rŵan yw’r amser i sortio fo allan go iawn, oherwydd mae’n gyfnod eithaf tyngedfennol i gymunedau Cymraeg yn arbennig.
“Gwnaeth y cyfrifiad diwethaf ddangos bod y nifer o siaradwyr Cymraeg wedi gostwng unwaith eto.
“Er bod rheoli AirBnBs a threthi tai haf yn bwysig, dydw i ddim yn meddwl mai hynny yw’r ateb yn llawn.
“Rwy’n meddwl bod angen rheoleiddio’r farchnad dai yn gyfangwbl yng Nghymru.
“Ti ddim ond yn mynd i allu gwneud hynny drwy Ddeddf Eiddo.
“Dyna pam ei fod yn ofnadwy o bwysig bod yna filoedd yn dod i Gaernarfon ar Fai 8, er mwyn dangos i Lywodraeth Cymru pa mor bwysig ydy’r mater yma.”
Ysbryd protest
Yn ôl Geraint Løvgreen, fydd yn un o’r perfformwyr yn y digwyddiad, mae cerddoriaeth ac ymgyrchoedd wedi mynd law yn law erioed.
“Rwy’n meddwl bod cerddoriaeth wastad wedi bod yn bwysig yn bobol yn protestio,” meddai wrth golwg360.
“Rwy’n meddwl nôl pan oedd Canolfan Tan y Bont fan hyn, oedd o’n dod â phobol at ei gilydd.
“Roedd llawer o’r canu’n wleidyddol, doedd dim rhaid iddo fod yn wleidyddol chwaith.
“Roedd y weithred o ganu’n Gymraeg yn wleidyddol.
“Rwy’n meddwl yn yr amser yna pan oedd Tan y Bont yn ei amser, roedd gwleidyddiaeth genedlaethol ar i fyny yng Nghaernarfon.
“Roedd yn dylanwadu ar awyrgylch y lle rwy’n meddwl.”
Problem tai yng Nghaernarfon
Nid yn unig mae Geraint Løvgreen wedi gweld y broblem yn genedlaethol, ond hefyd yn ei filltir sgwâr yng Nghaernarfon, mewn ardaloedd oedd unwaith yn draddodiadol hygyrch i brynu tŷ.
“Rwy’n meddwl bod pawb yn gweld bod o’n broblem enfawr yng Nghymru, mae tai wedi mynd yn bethau mor ddrud,” meddai.
“Dydy pobol ddim yn gallu’u fforddio nhw.
“Mae’r prisiau wedi mynd mor uchel, ac mae’r prisiau yn cael eu gyrru’n uwch o hyd.
“Rydw i’n meddwl mai problem fawr rŵan, hyd yn oed mewn llefydd fel Caernarfon, yw AirBnBs.
“Dydw i ddim yn gwybod y ffigyrau, ond mae pobol yn dweud bod AirBnBs yn Twthill lle, yn draddodiadol, bysa chdi’n prynu dy dŷ cyntaf.
“Mae hynny allan o gyrraedd pobol rŵan.”