Mae Jenny Rathbone, cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, yn dweud bod angen sicrhau “cymorth priodol” ar gyfer pobol ifanc sydd ag anawsterau cyfathrebu.

Mae ymchwil diweddar gan y Senedd wedi datgelu bod gormodedd o bobol ifanc ag anghenion cyfathrebu yn system cyfiawnder troseddol Cymru.

Yn ôl yr adroddiad ‘60% – Rhoi Llais iddynt’, gafodd ei gyhoeddi gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd heddiw (dydd Mercher, Ebrill 19), mae gan o leiaf 60% o’r bobol ifanc sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder ieuenctid anhawster cyfathrebu.

Mae hyn yn cynnwys anawsterau o ran eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu – megis dyslecsia, atal dweud, byddardod ac anawsterau sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth.

Angen “disgleirio lens agosach” ar addysg

“Mae angen i ni ddisgleirio lens llawer agosach ar yr hyn sy’n digwydd yn y system addysg i sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei roi ar waith cyn gynted ag y nodir bod gan blentyn oedi cyfathrebu,” meddai Jenny Rathbone wrth golwg360.

“Yn aml, mae ysgolion yn ceisio osgoi delio â’r broblem trwy anfon disgyblion i sefydliadau allanol.

“Yna, pan fydd pobol ifanc rwystredig yn gadael yr ysgol heb waith nac unrhyw fodd o gyflogaeth, gallwch ddeall pam eu bod yn disgyn i mewn i’r system cyfiawnder troseddol.

“Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod unrhyw berson ifanc sy’n dod yn rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid yn cael ei gefnogi’n briodol i ddeall beth sy’n digwydd iddyn nhw.

“Allwch chi ddim cymryd yn ganiataol bod ganddyn nhw unrhyw ddealltwriaeth o’r hyn mae’r Ynad yn gofyn iddyn nhw ei wneud os na chân nhw eu cyfathrebu mewn ffordd y gallan nhw ei ddeall.”

Camddealltwriaeth

Mae’r ffigwr o 60% ar gyfer y system cyfiawnder ieuenctid gryn dipyn yn uwch na’r ffigwr sy’n cynrychioli’r boblogaeth gyffredinol, sef 10%.

Pan gafodd ei holi pam ei bod hi’n credu bod y ffigwr ar gyfer y system cyfiawnder ieuenctid lawer uwch na’r ffigwr cyffredinol, dywedodd Jenny Rathbone fod cam-labelu pobol ifanc yn rhan o’r broblem.

“Rwy’n meddwl bod angen deall bod rhywun sydd heb yr iaith i fynegi eu hemosiynau oherwydd eu hoedran yn mynd yn rhwystredig, a byddai unrhyw un sydd wedi magu plant yn deall hynny,” meddai.

“Os nad oes gan blentyn y gallu i fynegi ei emosiynau, yn amlwg gall hynny arwain at ddicter ac yn aml bydd y plentyn yn cael ei labelu fel un sydd ag anawsterau ymddygiad neu yn broblemus, yn hytrach na mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol sef y methiant i allu cyfathrebu’n llawn.”

Mae’r adroddiad wedi gosod nifer o argymhellion ynglŷn â’r angen i wella’r system addysg a’r cymorth sydd ar gael i bobol ifanc ag anawsterau cyfathrebu.

Mae disgwyl y bydd cynllun llawn wedi ei gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn.

“Dydy magu plant ddim yn dod gyda chyfarwyddiadau, ac yn aml dydy pobol ddim yn deall bod yn rhaid i chi siarad â’ch plentyn o’r funud mae’n cael ei eni,” meddai Jenny Rathbone.

“Os oes gennych iselder ôl-enedigol, gall hynny ymyrryd ac arwain yn ei dro at rai problemau sylweddol.

“Felly mae angen i ni ganolbwyntio ar sicrhau bod unrhyw un sy’n ymwneud ag addysgu pobol ifanc yn deall pwysigrwydd anawsterau cyfathrebu, a’u bod yn cynnig y cymorth priodol i’w cefnogi ac i wneud y mwyaf o’u gallu i gyfathrebu.”